“Be’ sy’n gallu bod yn fwy gwrthun na symud gŵyl y gweithwyr i fod yn ŵyl i ddyrchafu annhegwch a genedigaeth fraint sydd efo dim lle o gwbl yn yr oes bresennol?,”

meddai Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris.

Dyna sylw Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig ymuno â’r galwadau i symud gŵyl banc ddechrau mis Mai i nodi coroni’r Brenin Charles III ar Fai 6 y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd Palas Buckingham ddoe (dydd Mercher, Hydref 12) y bydd Charles yn cael ei goroni’n Frenin, gyda’r Frenhines Gydweddog yn cael ei goroni ar yr un pryd.

Yn draddodiadol, dydy seremonïau coroni ddim wedi cael eu cynnal ar benwythnosau, gydag achlysur y ddiweddar Frenhines yn digwydd ar ddydd Mawrth, Mehefin 2, 1953.

“Rydym yn cydnabod penderfyniad y Brenin i gynnal ei goroni ar ddydd Sadwrn, efallai’n adlewyrchu awydd gostyngedig i darfu cyn lleied â phosibl ar ein bywydau bob dydd,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i’r cyhoeddiad.

“Fodd bynnag, mae awydd amlwg gan bobol Prydain i nodi’r digwyddiad hwn yn swyddogol ac i ddathlu teyrnasiad newydd Ei Fawrhydi gyda gŵyl banc.

“Bydd hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol hanesyddol gydag arwyddocâd diwylliannol aruthrol.

“I lawer, hwn fydd y coroni cyntaf y byddan nhw wedi’i weld, ac rydyn ni’n llwyr gefnogi galwadau i symud gŵyl y banc er anrhydedd iddo.”

Dim lle i sefydliad fel y frenhiniaeth

“Dw i’n meddwl mai rhan o’u strategaeth nhw i gadw’r Undeb ynghyd ydi o,” meddai Robat Idris wrth golwg360 am alwad y Ceidwadwyr Cymreig.

“Defnyddio’r frenhiniaeth a Jac yr Undeb i leihau’r syniad fod yr Alban a Chymru i fod ar wahân i Loegr.

“Does yna ddim lle i sefydliad fel y frenhiniaeth ar ben uchaf y sefydliad Prydeinig, nac unrhyw wladwriaeth neu wlad arall.

“Mae’n adlewyrchu’n hollol, hollol eglur yr annhegwch sydd o fewn ein cymdeithas ni.”

Dydd Gŵyl Dewi yn bwysicach

“Ddylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl y banc yn lle rhywbeth sydd ddim yn berthnasol i ni fel y coroni, rhyw drefn sydd wedi cael ei roi arnom ni,” meddai’r cynghoryddd Elfed Wyn wrth golwg360.

“Mae’n rhyfedd eu bod nhw eisiau dathlu’r pethau yma fel eu bod nhw’n falch bod Cymru wedi cael ei ormesu.

“Mae angen canolbwyntio ar Ddydd Gŵyl Dewi.”