Mae ymgeisydd ar gyfer rôl Comisiynydd y Gymraeg wedi awgrymu bod angen mwy o sylw i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith, a bod angen ystyried y cydbwysedd rhwng hynny a chreu safonau iaith a rheoleiddio.
Bu Efa Gruffudd Jones – sy’n brif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2015 – yn siarad gerbron pwyllgor diwylliant Senedd Cymru heddiw (dydd Iau, Hydref 13).
Dywedodd mai ei phrif flaenoriaeth fyddai cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, gan ychwanegu y byddai canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn “gyrru rhai o’r blaenoriaethau”.
Dangosodd Cyfrifiad 2011 ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn ei chadarnleoedd.
Y drefn
Bydd y Comisiynydd yn cael ei benodi neu ei phenodi gan Brif Weinidog Cymru.
Fodd bynnag, roedd y panel cynghori ar asesu yn cynnwys:
- Bethan Webb, dirprwy gyfarwyddwr y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- Craig Stephenson, uwch aelod annibynnol o’r panel
- Rhian Huws-Williams, aelod annibynnol o’r panel
- Heledd Fychan AS (ar ôl i Delyth Jewell AS dynnu’n ôl).
Bydd y Comisiynydd yn cael cytundeb saith mlynedd, ac yn derbyn cyflog o ryw £95,000.
‘Y Gymraeg yn drysor’
“Rwyf yn ffodus fy mod, oherwydd fy amgylchiadau teuluol a’m gwaith, yn gallu byw trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifddinas Cymru, ond gwn nad pawb sy’n cael yr un profiad,” meddai Efa Gruffudd Jones.
“Mae gwarchod a datblygu cymunedau, gofodau, a chymdeithasau ble gall pobol siarad Cymraeg yn ddi-rwystr yn hanfodol i’w dyfodol bywiog hi.
“Dylai pobol ble bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru allu mwynhau siarad Cymraeg.
“Byddwn yn ystyried sut y gellir defnyddio pwerau a rôl y Comisiynydd orau er mwyn sicrhau bod gan fwy o bobl gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a’n bod yn rhoi cyfleoedd ystyrlon, er enghraifft, i bobl ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau.
“Rwyf o’r farn fod y Gymraeg yn drysor sy’n perthyn i bawb yng Nghymru.
“Fel pob trysor mae angen gofalu amdano.
“Ni fyddwn am ei weld mewn amgueddfa draddodiadol – ond hoffwn ei weld yn cael ei ddefnyddio a’i ddathlu.”