Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dyn, 42 oed, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Brynbuga, Sir Fynwy.

Bu Mark Crabtree o Swydd Hertford mewn gwrthdrawiad tua 9.30 fore dydd Sul, Ionawr 3.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau am wrthdrawiad un cerbyd.

Roedd y cerbyd yn teithio tua’r de ar yr A449, tua Chasnewydd, ger troad Brynbuga.