Mae ymchwiliad ar y gweill, yn dilyn tân mewn ysgol gynradd yn ystod oriau mân bore heddiw.

Fe gafodd y gwasaanaethau brys eu galw i Ysgol Coed Efa yng Nghwmbrân toc cyn 2.30yb, ac fe gymrodd hi oddeutu awr i’r ymladdwyr tân i gael y fflamau dan reolaeth. Fe gymrodd hi ddeg o griwiau i ddiffodd y fflamau’n llwyr.

Mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydweithio ar yr ymchwiliad i geisio darganfod achos y tân.