Friars Walk yng Nghasnewydd
Bu’n rhaid i siopwyr adael canolfan siopa newydd yng Nghasnewydd ar ôl i arogl cryf godi pryderon bod nwy yn gollwng.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Friars Walk yng Nghasnewydd nos Fercher yn dilyn adroddiadau bod pobl yn teimlo’n sâl.
Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty a chafodd chwech o bobl eraill eu trin ar y safle.
Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod yr arogl cryf yn dod o lud, neu resin, ar y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Friars Walk: “Cafodd nifer fechan o fwytai eu cau dros dro tra bod y gwasanaethau brys yn ymchwilio i’r arogl mewn uned gyferbyn lle mae gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd bod y safle bellach yn ddiogel ac ar agor yn ôl yr arfer.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans bod parafeddygon wedi cael eu galw i Friars Walk ac nad oedd yr arogl yn beryglus ond eu bod wedi cludo rhai pobl i Ysbyty Brenhinol Gwent fel rhagofal.
Fe agorodd y ganolfan siopa gwerth £117 miliwn ym mis Tachwedd.
Er gwaetha’r trafferthion ddoe dywedodd llefarydd ar ran Friars Walk bod y ganolfan wedi cael Nadolig llwyddiannus iawn gyda 40,000 o siopwyr yn dod yno ar Ŵyl San Steffan.