John Rowlands fu farw'n gynharach eleni
Gyda blwyddyn arall bron a bod ar ben, rydyn ni wedi bod yn cael cip nôl ar beth oedd y straeon mwyaf poblogaidd eleni ar Golwg360 ymysg ein darllenwyr.

O ffraeo ieithyddol i etholiadau gwleidyddol, rheiny sydd wedi’n gadael, i gip nôl ar ein plentyndod, roedd digon o straeon i’n cadw ni’n brysur dros y deuddeg mis diwethaf.

Heb oedi ymhellach felly, dyma’r Deg Uchaf – gallwch hefyd gael cip nôl ar y straeon mwyaf poblogaidd o gategorïau Prydain, Rhyngwladol, Celfyddydau, Chwaraeon a Blogiau eleni!

1.‘Beth yw pwynt y Gymraeg?’ – dilorni’r iaith yng Nghaerdydd

Pwnc wnaeth gorddi’r dyfroedd heb os eleni oedd sylwadau sarhaus ar dudalen Facebook gwefan newyddion The Tab am y Gymraeg, a hon ddaeth i’r brig o ran y nifer a’i darllenodd ar Golwg360 eleni.

Tynnodd Oli Dugmore, un o olygyddion y dudalen, nyth cacwn am ei ben ar ôl herio “what is even the f*****g point” wrth drafod buddsoddiad ariannol i’r Gymraeg.

Ond yn lle ymddiheuro, fe gyhoeddodd flog yn sarhau’r iaith ymhellach, gan godi amheuon mai corddi a phrocio bwriadol oedd ei sylwadau yn y bôn.

2.‘Mae’r Gymraeg yn dwp!’

Na, nid ail stori am The Tab oedd hwn, ond un â gogwydd llawer mwy positif tuag at y Gymraeg nag yr oedd y cyflwyniad yn ei awgrymu.

Erthygl oedd hon am fideo gafodd ei chynhyrchu gan yr Urdd a’r Ganolfan Gynllunio Iaith, ble roedd bachgen 14 oed o’r enw Yousuf Bakshi yn rhestru holl anfanteision dysgu Cymraeg – cyn troi’r holl beth ar ei ben.

3.Blog Byw Golwg360 – Etholiad 2015

Digwyddiad gwleidyddol mawr y flwyddyn wrth gwrs oedd yr etholiad cyffredinol, wrth i’r Ceidwadwyr lwyddo i gipio mwyafrif yn San Steffan ar ôl pum mlynedd o arwain y llywodraeth glymblaid.

Ifan Morgan Jones oedd wrth lyw y blog gyda chymorth Llywelyn Williams, tra bod Iolo Cheung yn dod â’r diweddaraf o Gaerdydd, gohebwyr amrywiol yn bwydo canlyniadau ac ymateb o’r cyfrifon, a Dylan Iorwerth yn bwrw’i olwg dadansoddol dros y cyfan.

4.Ffrae’n rhwygo Ceidwadwyr Aberconwy

Gan barhau gyda’r etholiad cyffredinol, un o’r straeon mwyaf yng Nghymru yn ystod yr ymgyrch oedd sgŵp Golwg360 ar ffrae danllyd rhwng y Ceidwadwr Guto Bebb a chadeirydd ei blaid ei hun.

Fe aeth y stori i bobman wedi i e-byst ddod i’r fei yn dangos bod y cadeirydd yn cyhuddo’i ymgeisydd o’n “twyllo ni i gyd”, a hwnnw’n ymateb drwy ei alw’n “dwpsyn” – nid bod hynny wedi gwneud llawer o wahaniaeth i’r canlyniad, wrth i’r blaid gynyddu eu mwyafrif ym mis Mai.

5.John Rowlands wedi marw

Yn anffodus mae diwedd blwyddyn hefyd yn adeg ble byddwn ni’n cofio am y rheiny sydd wedi’n gadael eleni, ac un o’r amlycaf heb os oedd y nofelydd a’r beirniad llenyddol John Rowlands.

Roedd yn gyn-Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe gafodd ei ddisgrifio gan Simon Brooks, un o’i gyn-fyfyrwyr, fel “yr athro gorau a gafwyd mewn adran Gymraeg yng Nghymru erioed”.

6.Prifardd yn ymprydio

At iaith yr awn ni unwaith eto, ond y tro hwn y Mesur Cynllunio oedd dan sylw wrth i ymgyrchwyr iaith ddangos eu hanhapusrwydd â’r cynlluniau fel ag yr oedden nhw.

Mynnodd y Prifardd Mererid Hopwood y byddai’n mynd heb fwyd oni bai bod Llywodraeth Cymru’n caniatáu i gynghorwyr lleol dderbyn neu wrthod cynlluniau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.

Ond er gwaethaf newid yn y gyfraith, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu a yw hynny wir wedi newid y ffordd mae cynghorau sir yn gweithredu.

7.Gwerthu gwersi Surf Snowdonia  mewn 35 iaith – ond ddim y Gymraeg

Yn aros gyda’r iaith, daeth cwmni Surf Snowdonia dan y lach dros yr haf ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd y Gymraeg yn un o’r degau o ieithoedd yr oedd modd cael gwersi syrffio ynddi.

Dim ond “un neu ddau” o’u staff oedd yn medru’r iaith yn ôl y cwmni, a oedd wedi gorfod cau’r ganolfan yn gynnar dros y gaeaf eleni yn dilyn sawl problem dechnegol.

8.Teyrngedau wedi’u rhoi i Siân Pari Huws

Un arall wnaeth ein gadael ni eleni oedd y newyddiadurwraig Siân Pari Huws, fu farw o ganser ym mis Tachwedd.

Roedd hi’n un o leisiau amlycaf Radio Wales yn ystod ei gyrfa, ac fe gafodd teyrngedau lu eu talu iddi gan sawl un o’i chyn-gydweithwyr gan gynnwys cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies, a’r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth.

9.Pwy sy’n cofio’r rhaglenni plant yma?

O ddifrif calon, pwy sydd ddim yn mwynhau edrych yn ôl ar atgofion melys eu plentyndod a’r cymeriadau hynny maen nhw’n ei gofio o holl straeon eu ieuenctid?

Mae’n amlwg bod darllenwyr Golwg360 wedi mwynhau atgoffa’u hunain o rai o’r hen raglenni teledu yma, gan gynnwys clasuron fel Sam Tân, Caffi Sali Mali, a Slici a Slac.

10.Cymru wedi ei ‘infiltratio gan fewnfudwyr’ yn ôl ymgeisydd Llafur

Un arall o’r straeon gwleidyddol syfrdanol a dorrodd ar Golwg360 yn ystod yr etholiad cyffredinol, y tro yma sylwadau gan ymgeisydd Llafur oedd dan sylw.

Daeth i’r amlwg bod Huw Thomas, yr ymgeisydd yng Ngheredigion, wedi gwneud amryw o sylwadau annoeth yn ystod ei ddyddiau coleg, gan gynnwys awgrymu mai dim ond ‘simpleton’ neu ‘casual racist’ fyddai eisiau chwifio baner Lloegr ac y dylid taflu tippex ar geir oedd yn eu hedfan.

Fe ymddiheurodd Huw Thomas yn syth am y sylwadau, gan feio naïfrwydd ieuenctid, ond nid cyn i sawl un ei gyhuddo o ragrith ar ôl iddo ddweud ychydig ddyddiau’n gynt y dylai un o’i wrthwynebwyr gwleidyddol ymddiswyddo am sylwadau dadleuol yr oedd yntau wedi’i wneud yn y gorffennol.