Edwina Hart
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod 62 o fusnesau mewn pum Ardal Fenter wedi cael gwerth bron £1.2 miliwn o gymorth gyda’u trethi busnes.

Mae’n  rhan o’r gyfres ddiweddaraf o gyhoeddiadau cyllido gan Lywodraeth Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn ystod y cylch cyllido diweddaraf o dan Gynllun Ardrethi Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau mewn Ardaloedd Menter.

Cefnogi 198 o fusnesau

Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i helpu busnesau bach a chanolig mewn Ardaloedd Menter yng Nghymru dalu eu trethi busnes.

Ers 2012, mae’r cynllun wedi cefnogi 198 o fusnesau, gan gynnig dros £9 miliwn o gyllid, meddai’r Llywodraeth.

Yn y Gogledd, mae 31 o gwmnïau yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy wedi cael cyfanswm o  £598,165 mewn cymorth ardrethi ac mae naw cwmni yn Ardal Fenter Ynys Môn wedi cael £144,000.

Yn y Gorllewin, mae 16 o gwmnïau yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau wedi cael £189,926. Yn y De, mae pum busnes yn Ardal Fenter Glynebwy wedi cael £216, 402 ac mae un busnes yn Sain Tathan wedi cael £37,583.

‘Creu’r amodau i fusnesau ffynnu’

Dywedodd Edwina Hart: “Rydyn ni’n gwbl ymrwymedig i greu’r amodau priodol i fusnesau fedru ffynnu a thyfu yng Nghymru. Mae’r Cynllun Ardrethi ar gyfer Busnesau mewn Ardaloedd Menter wedi bod yn hynod boblogaidd ac mae wedi helpu i greu twf a swyddi yn yr ardaloedd hynny.

“Hyd yma, mae bron 200 o gwmnïau yn yr Ardaloedd Menter wedi elwa ar ein cynllun ardrethi busnes a dw i’n hynod falch i fedru cyhoeddi’r cylch cyllido diweddaraf hwn.

“Mae’r cynllun, ynghyd â’r ffaith ein bod wedi estyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yn lleihau costau i fusnesau ledled Cymru.”