Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi landlordiaid yng Nghymru, yn ôl Janet Finch-Saunders.
Mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy yn rhybuddio bod “prinder dybryd o dai i’w rhentu ar draws y genedl”.
Mae hi’n galw am sefydlu bwrdd newydd sy’n cyfrif ffigyrau o bob rhan o’r sector, gan gynnwys cyrff tenantiaid a landlordiaid, fyddai’n paratoi adroddiadau ac yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Mae’n galw hefyd am ddiwygio Rhentu Doeth Cymru, sef y corff sy’n cynorthwyo landlordiaid i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol.
Ymhlith y diwygiadau hyn fyddai cyhoeddi ystadegau perfformiad blynyddol er mwyn “helpu i roi darlun cliriach o sut mae’n perfformio ac er mwyn helpu i lywio polisïau sy’n cael eu gwneud yn ehangach”.
Ac mae’n dymuno i’r corff fod yn destun gwerthusiad annibynnol gan Archwilio Cymru i “ganfod a yw’n bodloni ei amcanion ac yn rhoi gwerth am arian”.
Mae’r Aelod Ceidwadol yn berchen ar ddau eiddo preswyl, pedwar eiddo manwerthu yn Sir Conwy, yn ogystal ag eiddo gwyliau ym Mhorthaethwy.
Ond wrth siarad â golwg360, mynnodd nad yw hi’n rhentu’r un eiddo allan yn barhaol.
‘Cyflawni ar gyfer y sector rhentu’
“Mae llai na hanner y landlordiaid wedi adrodd bod dod o hyd i wybodaeth am sut i gydymffurfio â dyletswyddau newydd o dan Rhentu Doeth Cymru yn beth hawdd,” meddai mewn datganiad.
“Ar yr un pryd, dywedodd 49% ei bod yn anodd neu’n anodd iawn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, tra bod 46% yn dweud ei bod yn anodd neu’n anodd iawn dod o hyd i wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru.
“Canfuwyd hefyd nad yw mwy na phedwar o bob deg tenant yn ymwybodol o fodolaeth Rhentu Doeth Cymru.
“Mae’n amlwg i mi, o siarad â thenantiaid a landlordiaid, nad yw Rhentu Doeth Cymru yn cyflawni ar gyfer y sector rhentu.
“Hyd yn oed heddiw, mae Rhentu Doeth Cymru yn adrodd nad ydyn nhw’n gallu darparu gwasanaeth ffôn ar hyn o bryd ac y gallai sefyllfa o’r fath fod yn wir am beth amser.”
‘Gwario ffortiwn er mwyn i bobol aros mewn gwestai’
Wrth siarad â golwg360, dywed Janet Finch-Saunders mai gwarchod tenantiaid, yn hytrach na landlordiaid, mae hi’n galw amdano yn y bôn.
“Dw i’n bryderus iawn ynghylch landlordiaid preifat,” meddai.
“Ddim gymaint am y landlordiaid eu hunain, ond y tenantiaid.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Cyngor Sir Conwy wedi gwario £1.2m er mwyn i bobol aros mewn gwestai dair blynedd yn ôl.
“Cynyddodd y ffigwr hwnnw i £2.6m, a nawr maen nhw’n darogan y byddan nhw’n gwario £4.6m.
“Os wyt ti’n efelychu hynny ar draws Cymru, rydan ni’n gwario ffortiwn er mwyn i bobol aros mewn gwestai a llefydd gwely a brecwast.
“Llety dros dro maen nhw’n ei alw, ond dydy o ddim yn llety dros dro, yn amlach na pheidio mae o’n llety parhaol.
“Mae gennym ni argyfwng tai yng Nghymru ond mae yna fwy nag un ffordd i fynd i’r afael ag o.
“Dydy o ddim jyst i’w wneud ag ymosod sydd ar ail dai neu lety gwyliau.
“Mae angen i ni adeiladu mwy o dai, fe ddylen ni fod wedi bod yn adeiladu mwy o dai dros 23 mlynedd diwethaf datganoli, ond dyna ni.
“Mae angen ymateb arloesol i’r argyfwng hwn oherwydd mae landlordiaid a pherchnogion eiddo yn dod i ’ngweld i’n rheolaidd, yn rhybuddio eu bod nhw’n bwriadu symud i’r diwydiant llety a gwyliau gan ei fod yn fwy ffyniannus na rhentu eiddo allan yn barhaol.
“Yn sicr, mae angen mwy o gydbwysedd yn y ddadl hon.”