Mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan ymateb i’r argyfwng costau byw gyda datrysiad “yr un mor chwyldroadol” â’r system ffyrlo, yn ôl un o Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd.
Yn ôl Delyth Jewell, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, mae’n rhaid i’r system newid yn gyflymach na’r arfer yn sgil difrifoldeb yr argyfwng.
Yn unol â’r amcangyfrifon diweddaraf gan arbenigwyr, mae disgwyl i filiau ynni godi i £4,266 y flwyddyn nesaf, gydag aelwydydd yn talu £355 y mis ar gyfartaledd, yn hytrach na £164 fel nawr.
Dywedodd yr arbenigwr Martin Lewis heddiw (dydd Mercher, Awst 10) fod y sefyllfa yn “argyfwng cenedlaethol” ar yr un raddfa â’r pandemig, ac mae Delyth Jewell yn cytuno.
Yn y tymor hir, mae angen i’r system gyflenwi ynni ddod dan berchnogaeth gyhoeddus, meddai.
‘Dim cydymdeimlad’
Yr hyn sy’n gwneud y sefyllfa yn un “mor ofnadwy” yw fod pobol yn ei chael hi’n anodd yn barod, ac yn gwybod fod pethau’n debygol o waethygu, yn ôl Delyth Jewell.
“Mae pobol yn gweld gyda’r rhagolygon newydd yma bod y pris oedd yn barod yn mynd i fod yn hollol anfforddiadwy i gymaint o bobol yn mynd lan unwaith eto,” meddai wrth golwg360.
“Dyw e ddim yn cyffwrdd â realiti bywydau pobol o gwbl.
“Liz Truss a Rishi Sunak, dydyn nhw ddim wir hyd yn oed yn siarad gyda phobol gyffredin. Maen nhw jyst yn siarad gyda chynulleidfa mor fach o bobol sy’n mynd i fod yn penderfynu pa un ohonyn nhw sy’n mynd i fod yn brif weinidog.
“Dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw fath o gydymdeimlad o gwbl gyda realiti’r argyfwng sy’n wynebu pobol, achos dydy’r rhan fwyaf o aelodau’r Blaid Dorïaidd ddim am fod y math o bobol sy’n mynd i fod yn wynebu argyfwng.
“Y peth sy’n gwneud y sefyllfa gymaint yn waeth i bobol ydy nad ydyn nhw’n gweld unrhyw fath o oleuni, dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw arwydd o gwbl bod Llywodraeth San Steffan yn becso.”
Camau chwyldroadol
Yn ystod argyfwng y coronafeirws, fe gymerodd Llywodraeth San Steffan gamau “eithaf chwyldroadol”, meddai Delyth Jewell.
“Rydyn ni angen ryw fath o ymateb cyfatebol. Rydyn ni’n anghofio bod e am ‘Ydy pobol yn mynd i allu cario ymlaen i fyw bywyd?'” eglura.
“Bydd miloedd o bobol yn marw neu’n wynebu bywyd sydd fel ryw fath o burdan… fyddan nhw methu cadw’n dwym, fyddan nhw methu bwyta’n ddigon iach.
“O ran yr effaith fydd e’n ei gael mae e’n sicr fel Covid, ond dydy’r llywodraeth yn San Steffan ddim yn fodlon cydnabod bod problem.
“Maen nhw dal i sôn am dorri trethi.
“Maen nhw mewn rhyw fath o realiti gwyrdroëdig.”
Perchnogaeth gyhoeddus
Mae hi’n “hollol hurt” fod yna farchnad ar gyfer rhywbeth fel ynni yn y lle cyntaf, meddai Delyth Jewell.
“Os ydych chi’n cymharu fe gyda rhywbeth fel prynu car, ar gyfer prynu car mae cwmnïau gwahanol yn gallu creu gwahanol fathau o geir,” esbonia wedyn.
“Hyd yn oed os maen nhw’n gwerthu’r un car, maen nhw’n gallu gwerthu fersiwn fwy newydd gyda bells and whistles gwahanol sy’n gallu mynd yn gyflymach neu’n well ar gyfer yr amgylchedd.
“Yr un ynni mae pob un o’r cwmnïau yma’n ei werthu. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn handlo’r ynni yma eu hunain achos mae’r isadeiledd i gyd yn rywbeth canolog.
“Fe wnaeth Thatcher a’i llywodraeth ychwanegu haen newydd, a haen eithaf ffug dw i’n meddwl, ar gyfer gwerthiant masnachol ynni, a dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr achos dydych chi methu creu math newydd o ynni sy’n mynd i fynd yn gyflymach neu beth bynnag.
“Ond o ran beth rydyn ni’n ei brofi nawr [dyw e ddim yn gweithio i’r cwsmer chwaith].
“Os ydy cwmni ynni yn bodoli maen nhw angen gwneud elw felly rydyn ni’n cael y system hollol afiach yma lle mae cwmnïau enfawr fel Shell a BP yn gwneud elw anhygoel ar yr un foment ag y mae yna bobol mewn argyfwng go iawn.
“Mae’r holl system yn troi o gwmpas yr angen i greu elw ar gyfer nifer fach o bobol. Dydy rhywbeth fel yna ddim yn iawn ar gyfer cyflenwad ynni achos dyna’r math o beth sy’n cadw pobol yn fyw. Mae’n rhywbeth hollol wrthun.
“Fyswn i’n dweud wrth unrhyw un sydd yn erbyn y syniad ac sydd dal yn gryf o blaid y farchnad, mae eich marchnad chi yn methu y bobol. Beth yn y byd sy’n bod gyda gwneud rhywbeth sy’n mynd i gadw pobol yn fyw?”
Treth ffawdelw
Ond yn y tymor byr, mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gamu mewn a “gwneud yn siŵr bod gan bobol y gallu i gario ymlaen i fyw”, meddai.
Byddai Delyth Jewell o blaid Treth Ffawdelw (Windfall Tax), sef treth ar elw sy’n annisgwyl o fawr.
“Dw i’n meddwl ddylsai’r holl elw windfall gael ei gymryd i ffwrdd oddi wrth gwmnïau a mynd mewn i wneud yn siŵr nad ydy pobol yn gorfod talu mwy ar filiau.
“Fyswn i eisiau gweld ni o dan system debyg i’r un sydd ganddyn nhw yn Ffrainc, lle mai’r llywodraeth sy’n cymryd y baich.
“Dw i’n gwybod y byddai hynny’n gorfod golygu bod trethi’n uwch. Rydyn ni’n sôn weithiau am drethi fel eu bod nhw’n bethau drwg, ond mewn cymaint o wledydd sydd ddim mor gyntefig yn y ffordd maen nhw’n edrych ar drethi – trethi ydy’r ffordd o wneud yn siŵr bod pobol llai ffodus mewn cymdeithas yn gallu cael safon dda o fyw bywyd.
“Rydyn ni mewn argyfwng felly fyswn i’n dweud bod rhaid i’r system newid mewn ffordd lot cyflymach nag mae e fel arfer yn newid, ac mae’n rhaid i’r llywodraeth gymryd y baich.
“Dyw e jyst ddim yn iawn i hynna ddisgyn ar ysgwyddau pobol gyffredin.”