Dyw Syr Keir Starmer ddim wedi “dangos digon o gefnogaeth” i streic undeb RMT (Rheilffyrdd, Morol a Thrafnidiaeth), yn ôl Meic Birtwhistle, y newyddiadurwr, cynhyrchydd teledu a chyn-swyddog undebol.
Roedd hefyd yn brif swyddog y wasg yng Nghymru ar gyfer ymgyrch Jeremy Corbyn i gael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, a bu’n tywys cyn-arweinydd y Blaid Lafur o amgylch Maes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn (Awst 6).
Roedd dros 40,000 o weithwyr rheilffyrdd sy’n aelodau o undeb RMT dros y Deyrnas Unedig wedi cymryd rhan mewn streic dros gyflogau ac amodau ddiwedd mis Gorffennaf.
Ac mae disgwyl i streic arall gael ei chynnal ddydd Sadwrn (Awst 13) wrth i undeb gyrwyr trenau Aslef gerdded o’r gwaith.
‘Dim digon o gefnogaeth’
Mae Meic Birtwhistle yn credu bod Syr Keir Starmer yn colli ymddiriedaeth “cefnogwyr naturiol” y Blaid Lafur drwy “symud i’r dde”.
“Na, dw i ddim yn meddwl ei fod e wedi dangos digon o gefnogaeth (i streic undeb RMT),” meddai wrth golwg360.
“Enw’r blaid yw’r Blaid Lafur ers pan gafodd ei sefydlu ac un o’r pethau yr ydyn ni fod i’w wneud yw cefnogi’r mudiad llafur pan mae’n gofyn am help.
“Byddwn i’n sicr wedi disgwyl gweld rhyw faint o gefnogaeth.
“Dw i’n credu bod e (Syr Keir Starmer) yn ceisio sicrhau bod e’n gallu cael cefnogaeth gan Middle England, dyna yw ei strategaeth.
“Mae yna broblem yn y fan yna os wyt ti’n colli ma’s ar rai o dy gefnogwyr naturiol, yn enwedig ymhlith y dosbarth gweithiol.
“Mae e’n uffar o job, mae e’n anodd iawn.
“Ond fel dywedodd Mark Drakeford, pam fod pobol yn pleidleisio dros y Blaid Lafur yng Nghymru? Oherwydd maen nhw’n gwybod beth maen nhw’n mynd i’w gael.
“Y gair roedd e’n ei ddefnyddio oedd authenticity, a’r peth yw bod y Blaid Lafur Cymreig yn Gymreig ac yn blaid i’r mudiad llafur.
“Mae pobol yn amlwg yn hapus am hynny ac wedi cefnogi’r syniadau yna, ac ers canrif nawr mae Llafur wedi ennill y bleidlais boblogaidd (yng Nghymru).
“Dw i ddim yn meddwl bod penderfyniad Keir Starmer i symud i’r dde, neu i’r canol, yn mynd i ateb y broblem.
“Ar hyn o bryd, mae pobol yn poeni am gostau byw ac o ganlyniad beth sydd ei angen yw mwy o ymyrraeth gan y wladwriaeth i ffrwyno’r busnesau mawr, mae eisiau ymyrryd yn y farchnad rydd.
“Dyw’r farchnad rydd ddim yn edrych ar ôl y bobol fel arfer, mae’n edrych ôl y busnesau, y farchnad fel petai.
“A dw i’n siŵr y byddai polisïau o’r fath yn apelio petai pobol yn gweld bod y Blaid Lafur yn fodlon torri ar yr elw mae cwmnïau mawr ynni yn ei wneud ar hyn o bryd ar draul pobol gyffredin.”
‘Pobol eisiau ysbrydoliaeth’
Cafodd cynlluniau Jeremy Corbyn i wladoli’r grid ynni yn ystod ymgyrch etholiadol San Steffan yn 2019 eu lambastio gan y Ceidwadwyr yn ogystal â rhan helaeth o’r cyfryngau.
Fodd bynnag, mae’r cynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni dros y flwyddyn ddiwethaf yn profi mai “fe oedd yn iawn”, yn ôl Meic Birtwhistle.
“Roedd e’n galw am wladoli, dad-breifateiddio fel petai, a dw i’n meddwl bod hyd yn oed rhai Torïaid bellach wedi sylweddoli bod yn rhaid gwneud hynny,” meddai.
“Un o’r pethau sy’n dod i’n meddwl i bob tro yw beth ddywedodd Margaret Thatcher, dywedodd mai ei nod hi oedd symud cymdeithas i’r dde.
“Roedd hynny wrth gwrs yn cynnwys y Blaid Lafur, a Tony Blaid oedd y canlyniad.
“Beth ddylai’r Blaid Lafur fod yn ei wneud nawr yw symud cymdeithas a gwleidyddiaeth i’r chwith.
“Ond dyw polisïau Keir Starmer ar hyn o bryd ddim yn cynnig y math yna o ateb.
“Mae pobol eisiau ysbrydoliaeth, ac maen nhw hefyd eisiau rhywbeth sy’n mynd i wella eu cyflwr byw nhw.
“Dyw toriadau trethi i’r bobol fwyaf cyfoethog yn ein cymdeithas ni, fel mae Liz Truss a Rishi Sunak am ei wneud, ddim yn mynd i helpu yn y pendraw.”
‘Ymateb gwresog iawn’
Cafodd Jeremy Corbyn “ymateb gwresog iawn” ar Faes yr Eisteddfod, yn ôl Meic Birtwhistle.
“Beth oedd yn anhygoel oedd yr ymateb,” meddai.
“Roedd e hyd yn oed yn fwy twymgalon nag yr oeddwn i’n disgwyl ar y Maes.
“Mae’n rhaid pwysleisio bod y digwyddiad yma wedi cael ei drefnu gan CND Cymru (yr ymgyrch o blaid diarfogi niwclear).
“Jeremy Corbyn yw un o is-lywyddion CND ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac felly fe gafodd wahoddiad i siarad gan CND Cymru.
“Ond roedd CND Cymru wedi gofyn i mi fynd ag e o gwmpas y Maes ychydig bach, oedd yn grêt oherwydd roedd pobol wedi bod yn ceisio cynllunio hynny ers sbel.
“Y bwriad oedd cyflwyno’r Eisteddfod iddo fe fel concept ac egluro diwylliant Cymru yn well iddo.
“Dw i’n credu ei fod e wedi cael hwyl ac wedi cael ymateb gwresog iawn.”
‘Ddim eisiau gadael stondin Cymdeithas yr Iaith’
Doedd Jeremy Corbyn ddim eisiau gadael stondin Cymdeithas yr Iaith, medd Meic Birtwhistle.
Fodd bynnag, does dim gwirionedd i’r sibrydion ei fod e wedi ymweld â stondin YesCymru.
Bu cryn drafod ymhlith Eisteddfodwyr ar ôl i lun o’r cyn-arweinydd Llafur yn cydio mewn crys YesCymru gael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol y mudiad.
“Mae yna gamgymeriad yn y fan yna, doedd e ddim yn stondin YesCymru,” eglura Meic Birtwhistle.
“Fi oedd yn hebrwng y boi, doedd e ddim yn stondin YesCymru.
“Roedd YesCymru wedi dod ar ei ôl e a chyflwyno crys-t iddo fe, ac os wyt ti’n edrych ar y llun ohono gyda chrys YesCymru mae’r cefndir i gyd yn bethau CND a gwrth-niwclear.
“Mae Jeremy Corbyn yn berson sy’n dangos diddordeb, a dw i’n credu bod ganddo wir ddiddordeb yn yr holl bethau yma.
“Fe aethon ni i weld stondin Unite a Chymru Ciwba, Cymru-Ariannin a Chymdeithas yr Iaith.
“Doedd e ddim eisiau gadael (stondin Cymdeithas yr Iaith) gan eu bod nhw’n sôn am eu holl ymgyrchoedd presennol.
“Mae e’n foi sy’n hael iawn gyda’i amser ac sydd eisiau deall, dyw e ddim yn sioe gydag e.
“Mae e eisiau deall pobol a’u safbwyntiau nhw ac yn amlwg yn foi sydd yn ei chanol hi ers degawdau.
“Dwyt ti ddim yn cael dy wneud yn is-lywydd CND am botsian o gwmpas ar yr ymylon, mae’n rhaid dy fod di wedi taflu dy hun i mewn i ymgyrchoedd.
“Felly dw i’n meddwl ei fod o wir wedi mwynhau’r Eisteddfod.”