Mae Cymru annibynnol yn “llai tebygol” pe na bai’r Alban yn pleidleisio i adael y Deyrnas Unedig yn gyntaf, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Wigley.
Dywed cyn-arweinydd Plaid Cymru, pe bai’r Alban yn pleidleisio “na” i annibyniaeth eilwaith y byddai’r “ffocws yn troi” at sefydlu Deyrnas Unedig ffederal.
Fe fu’n siarad â phodlediad BBC Walescast yn y cyntaf o gyfres o gyfweliadau gyda gwleidyddion Cymreig.
Mae Llywodraeth yr Alban eisiau cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn 2023.
Fodd bynnag, mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthwynebu’r bleidlais.
Bu’r Arglwydd Wigley yn Aelod Seneddol Caernarfon o 1974 hyd at 2001, ac yn Aelod Cynulliad cynta’r etholaeth, gan ddal y sedd o 1999 tan 2003.
Arweiniodd Blaid Cymru ddwywaith, rhwng 1981 a 1984 ac o 1991 i 2000.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd ei fod yn bwriadu ymddeol o Dŷ’r Arglwyddi, lle mae e wedi bod ers 2011.
Fe fydd yn troi’n 80 oed y flwyddyn nesaf, a dywed ei bod yn bryd rhoi “terfyn ar bethau.”
‘Smotyn bach ar ochr orllewinol Lloegr’
Wrth siarad ar y podlediad, cwestiynodd yr Arglwydd Wigley beth fyddai gwerth gadael Cymru a Lloegr “fel uned” pe bai’r Alban yn dewis gadael yr Undeb.
“Ai dyna beth rydyn ni eisiau? I fod yn smotyn bach ar ochr orllewinol Lloegr sy’n cyfrif am ddim?
“Ychydig bach o lais sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, a byddai’r llais hwnnw yn gwanhau ymhellach ac yn cael ei ddominyddu gan anghenion Lloegr.”
Ond dywed, pe bai’r Alban yn gwrthod annibyniaeth eilwaith, ei bod yn “llai tebygol” y byddai Cymru yn dod yn annibynnol.
“Mewn termau realistig, pe bai’r Alban yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth ac yn pleidleisio ‘Na’, dw i’n meddwl y byddai’r ffocws yn troi at ddadl ar system ffederal neu cydffederal,” meddai.