Mae perchennog capel o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Sir Gaerfyrddin wledig wedi cael gwybod nad oes modd iddo ei ddymchwel.

Mae trigolion lleol yn Rhydcymerau ger Llanybydder, oedd wedi gwrthwynebu’r cais gan Nigel Smith, yn dweud eu bod nhw eisiau i’r capel fod yn fan ymgynnull ac yn siop gymunedol.

Roedden nhw hefyd yn gofidio am y fynwent gyfagos, lle mae’r cenedlaetholwr DJ Williams, awdur Hen Dŷ Fferm, wedi’i gladdu.

“Ein pobol ni oedd y rhain, a dylem barchu eu gorffwysfan,” meddai Rachel Philip o Rydcymerau mewn e-bost at Gyngor Sir Caerfyrddin.

Cafodd cais Nigel Smith i ddymchwel y capel gwag ei wrthod gan adran gynllunio’r Cyngor.

Dywedodd y Cyngor fod gwybodaeth annigonol wedi’i rhoi o ran presenoldeb ystlumod a pha mor agos yw’r adeilad at sawl eiddo gerllaw.

Dywedon nhw hefyd nad oedd gwybodaeth wedi’i rhoi chwaith am adfer y safle.

Cafodd y capel gwreiddiol ei adeiladu yn 1813, a’r adeilad presennol yn 1874.

Colli cyfleusterau

Mewn e-bost a gafodd ei hanfon at yr adran gynllunio, dywedodd Patricia Barker o Rydcymerau fod y pentref eisoes wedi colli tafarn, ysgol, siop a swyddfa’r post.

“Mae hyn wedi gadael y pentref heb ddim byd er lles cymuned Rhydcymerau. Flynyddoedd yn ôl, byddai festri’r capel yn cael ei ddefnyddio fel lle i gynnal rhai digwyddiadau, ac roedd yn fan cyfarfod da i bobol leol gael cwrdd,” meddai.

Cafodd hyn ei ategu gan un arall o’r trigolion lleol, Mikala Sargent.

“Mae’r pentref wedi colli cynifer o’i gyfleusterau eisoes, a byddai’n drasiedi pe bai’r capel yn mynd yr un ffordd,” meddai.

Cafodd cais blaenorol Nigel Smith i newid defnydd preswylfa ei wrthod ym mis Mawrth am bedwar rheswm, gan gynnwys diogelwch ar y ffordd.

Dywedodd swyddogion cynllunio hefyd fod yna ddiffyg manylion ynghylch mesurau diogelwch o ran presenoldeb ystlumod yng nghladin wal lechi’r capel.

Dywedodd arolwg o’r adeilad ar ran Nigel Smith fod adeilad y capel wedi’i gynnal a chadw’n wael, ond ei fod yn foddhaol o ran ei strwythur ac y gellid ei adfer.