Mae’n “rhaid derbyn yn llawen” y bydd yr iaith yn newid os ydyn ni am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai un academydd.

Wrth siarad yn ystod sgwrs ‘Cymraeg y Dyfodol’ ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd Dr Dylan Foster Evans fod safonau’r iaith yn newid drwy’r amser.

Gofynnwyd iddo gan gadeirydd y sesiwn – y cyflwynydd Sean Fletcher, a ddysgodd Gymraeg ar ôl symud i Gaerdydd – a oes peryg i safonau’r Gymraeg gael eu heffeithio gan bobol yn defnyddio geiriau Saesneg yn eu Cymraeg.

“Tase fi’n defnyddio lot o eiriau Saesneg, oes problem bod yr iaith yn mynd i gael ei watered-down, neu weakened, achos bod y Saesneg yn cael ei defnyddio mwy yn y Gymraeg?”

Wrth ymateb, dywedodd Dylan Foster Evans fod “pobol yn dweud hynny ers amser maith, ond os fysa chi’n mynd yn ôl 400 mlynedd roedd pobol yn dathlu bod geiriau benthyg Lladin yn yr iaith oherwydd bod hynny’n rhoi statws iddi.

“Be’ dw i’n weld gyda’r Gymraeg, dros y canrifoedd, yn sicr ers cyfnod y Tuduriaid, doedd yr iaith ond yn cael ei defnyddio ar gyfer crefydd yn gyhoeddus, ac ar gyfer, i ryw raddau bychan, addysg.

“Roedd yna feysydd eraill lle doedd y Gymraeg ddim yn cael ei defnyddio o gwbl ar unrhyw lefel ffurfiol, felly mae ein safonau ni heddiw’n gynnyrch proses sydd braidd yn annaturiol lle mae lot o bobol wedi cael eu cau allan.

“Rŵan ein bod ni’n ehangu defnydd o’r iaith, rydyn ni’n creu safonau newydd, byddai’n hurt i ni ddibynnu ar y safonau rydyn ni wedi’u hetifeddu ar sail cyfyngu’r Gymraeg i grefydd, ac efallai i raddau addysg.

“Rydyn ni rŵan mewn byd newydd, mae’r safonau yna wedi cael eu creu, dydyn ni ddim yn ufuddhau i’r safonau hynny, ond rydyn ni’n rheoli nhw. Dydyn nhw ddim yn ein rheoli ni. Mae hi fyny i ni sut ydyn ni’n defnyddio’r iaith.

“Mae safonau’n newid dros amser beth bynnag, maen nhw’n newid yn gyson. Does yna ddim pwrpas meddwl am gael miliwn o siaradwyr heb dderbyn yn llawen y bydd hynny’n newid yr iaith.

“Mi fydd yr iaith yn newid erbyn 2050, ac os nad ydy hi’n newid mae hynny’n rywbeth drwg iawn.”

Dylanwad ieithoedd eraill

Mae dylanwad ieithoedd eraill ar y Gymraeg yn beth cyffredin ers i’r iaith ddod i fodolaeth, meddai Dylan Foster Evans, gan gyfeirio at effaith y Lladin arni.

“Pan rydyn ni’n meddwl am ddylanwad ieithoedd ar ei gilydd, rydyn ni’n anghywir weithiau’n meddwl, ‘Dim ond ers canrif neu ddwy ganrif mae hyn yn digwydd, ar un adeg roedd yna iaith Gymraeg gwbl Gymraeg heb ddylanwad ieithoedd eraill’. Dydy hynny ddim yn wir o gwbl,” meddai.

“Mae’n rhaid inni fod yn fwy parod i dderbyn hynny a pheidio teimlo bod dwyieithrwydd yn rhywbeth anarferol neu ychydig bach yn beryglus.”

Ychwanegodd Gwenllian Carr, sy’n ymchwilio i agweddau pobol at yr iaith ac a oedd yn rhan o’r panel, fod yr iaith yn rhywbeth sy’n newid ac yn esblygu drwy’r amser.

“Mae safon yn bwysig er mwyn datblygu’r iaith mewn ffordd, ond mae hi’n fwy pwysig bod hi’n iaith mae pobol yn ei defnyddio, yn iaith mae pobol yn ei siarad. Mae hynna fwy pwysig nag unrhyw beth arall,” meddai.

“Os nad ydyn ni’n siarad Cymraeg, does yna ddim dyfodol i’r iaith. Os nad ydyn ni’n defnyddio Cymraeg, os nad oes gennym ni’r hyder i siarad Cymraeg dydy’r iaith ddim yn mynd i bara am ddim amser bron.”