Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi maniffesto newydd, ‘Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i’r 21ain Ganrif’ heddiw (dydd Gwener, Awst 5).

Bob deng mlynedd ers ei sefydlu, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi maniffesto newydd gyda’r bwriad o ymateb i heriau’r cyfnod.

Bydd y maniffesto ‘Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg’ yn ei lansio am 2 o’r gloch ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Dywed y mudiad eu bod nhw am i Gymru fod yn “wlad annibynnol na fydd yn ail-greu’r wladwriaeth Brydeinig gyfalafol a gormesol ar raddfa lai, ond un a fydd yn adeiladu cymdeithas dra wahanol, wedi’i seilio ar ryddid i holl bobl a chymunedau’r wlad”.

Mae’r maniffesto hefyd yn trafod yr argyfwng hinsawdd, ac yn rhybuddio na fydd yna gymunedau Cymraeg ar blaned farw.

Yn ôl y mudiad, yr un grymoedd sy’n bygwth y Gymraeg ag sy’n bygwth yr amgylchedd, ac mae’r maniffesto yn cynnig syniadau ar gyfer mesurau y gellir eu cymryd i gryfhau cymunedau a’r iaith fydd hefyd yn diogelu’r amgylchedd.

Ymysg y cynigion, mae’r mudiad yn galw am:

  • wneud trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb, gyda dyletswydd i sicrhau cysylltedd i bob cymuned;
  • ail-agor rheilffyrdd ar draws y wlad;
  • fuddsoddiad sylweddol mewn annog a chefnogi prosiectau ynni gwyrdd cymunedol;
  • grymuso cymunedau ar draws y wlad i gychwyn a chynnal mentrau cydweithredol, a phrynu a rhedeg asedau cymunedol, gyda chymorth penodol a chymhellion ariannol i annog defnydd o’r Gymraeg;
  • creu miloedd o swyddi gwyrdd ar draws y wlad trwy fuddsoddiad a rhaglen strategol i wella isadeiledd, inswleiddio ac uwchraddio tai presennol;
  • sefydlu hawliau cymunedol i wasanaethau lleol megis ysgolion, banciau a meddygfeydd.

‘Creu’r Gymru yr ydyn ni’n dyheu amdani’

“Mae’n amlwg fod y Gymraeg, ein cymunedau a’r blaned yn wynebu heriau mawr dros y blynyddoedd i ddod,” meddai Mabli Siriol Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Gwelwn mai’r un grymoedd sy’n bygwth y Gymraeg a’n cymunedau ag sy’n bygwth ein hamgylchedd naturiol.

“Hynny yw, system economaidd a llywodraethau sy’n gaeth i resymeg y farchnad ‘rydd’ dros les cymunedau, pobol a’r blaned.

“Mae modd creu Cymru sydd wir yn gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair ond mae hynny’n ddibynnol ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Galwn ni ddigalonni ac ildio neu gallwn ni fynd ati i greu’r Gymru yr ydyn ni’n dyheu amdani.”Felly rydyn ni’n galw ar bawb sy’n rhannu’r weledigaeth am Gymru rydd, Gymru Werdd, Gymraeg, i ymuno â ni i weithredu, i ddychmygu a gwireddu’r Gymru newydd hon.”