Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Joe Healy.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (dydd Mercher, Awst 3), yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.

Cafodd 18 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r beirniaid oedd Cyril Jones, Elwyn Hughes a Geraint Lloyd.

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig a £300 yn rhoddedig gan Seiri Rhyddion Talaith Gorllewin Cymru.

Bydd Joe hefyd yn cael ei wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.

O Wimbledon ddaw Joe Healy yn wreiddiol, a daeth i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a phenderfynu aros yn y brfddinas.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac erbyn heddiw mae’n siarad ein hiaith yn gwbl hyderus, gan ei defnyddio yn gymdeithasol ac yn y gwaith.

Mae hefyd wedi mynd ati i gefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Mae Joe’n angerddol dros y Gymraeg a Chymru, ac yn awyddus i weld ein hiaith yn ffynnu yn y dyfodol.

Mae hefyd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

Mae’n parhau i fyw yng Nghaerdydd ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ym mhob rhan o’i fywyd.

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd a’r rheini a ddaeth i’r brig oedd Stephen Bale o Fagwyr, Sir Fynwy, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Roedd y beirniaid yn gwbl gytûn fod y safon eleni’n uchel iawn unwaith eto, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis wyth i fynd yn eu blaenau i’r rownd derfynol, ond gan mai dim ond pedwar sy’n gallu cyrraedd y rhestr, dyma barhau i drafod tan iddyn nhw ddod i benderfyniad.

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.