Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw mewn tân yn y Rhyl ar 23 Rhagfyr.

Barrie Newton, 71, o Ruddlan, oedd perchennog y Light Works, yn Y Rhyl.

Bu farw mewn tan yno ddydd Mercher, 23 Rhagfyr.

Nid yw’r heddlu’n trin y tân fel un amheus.