Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ragor o lifogydd.
Mae disgwyl glaw trwm dros nos ac yn y bore gydag afonydd yn cyrraedd eu lefel uchaf yn hwyr fore Mercher neu ddechrau’r prynhawn.
Dywedodd CNC y bydd y glaw yn syrthio ar dir sydd eisoes yn wlyb iawn a bydd hyn yn achosi afonydd a nentydd i orlifo’n gyflym.
Mae disgwyl i CNC gyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd, a gallai ffyrdd gael eu cau wrth i ddraeniau gael trafferth i ymdopi â chymaint o ddŵr.
Mae disgwyl i dde Cymru gael ei effeithio fwyaf, ond mae CNC hefyd yn disgwyl cyhoeddi rhai rhybuddion llifogydd yng Ngogledd Cymru.
Cafodd pobl eu symud o’u cartrefi yng Ngwynedd a Môn dros y penwythnos a bu’n rhaid cau nifer o’r prif ffyrdd. Cafodd sawl ardal eu heffeithio gan gynnwys Bontnewydd, Llanrwst, Llanberis, Tal-y-bont a Biwmares.
Mae CNC yn cynghori pobl i gymryd gofal ar y ffyrdd gan y gallai’r amgylchiadau gyrru fod yn anodd, ac i gymryd gofal ger afonydd sy’n llifo’n gyflym.
Mae pobl hefyd yn cael eu cynghori i gadw golwg ar newyddion lleol a rhagolygon y tywydd er mwyn cael y diweddaraf am unrhyw broblemau yn eu hardal, ac osgoi gyrru trwy lifddwr.
‘Cymryd gofal’
Meddai Donna Littlechild, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC: “Rydym yn gofyn i bobl gymryd gofal ac edrych yn rheolaidd ar ein hysbysiadau a’n rhybuddion llifogydd. Caiff y rhain eu diweddaru bob 15 munud ar ein map rhybuddion llifogydd byw ar ein gwefan.
“Gall pobl ddarganfod a ydynt mewn perygl o ddioddef llifogydd, neu gallant gofrestru gyda’n gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd rhad ac am ddim trwy ymweld â’n gwefan neu ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
“Dylai unrhyw un sy’n gyrru fod yn arbennig o ofalus gan y bydd yna lawer o ddŵr ar y ffyrdd.”
Gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy gyfrwng cyfrif twitter Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd: @natreswales.
Neilltuo £1m i awdurdodau lleol
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi cyhoeddi ei fod yn neilltuo £1m yn syth i awdurdodau lleol i gynnal gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar eu cynlluniau afonydd a draenio, gan roi blaenoriaeth i gartrefi ac eiddo.
Bydd swyddogion yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol gyda’r manylion yn y dyddiau nesaf, meddai, ac yn gweithio gyda nhw i weld beth arall gellir ei wneud i gyflymu’r gwaith i ddiogelu cartrefi a modurwyr.
Mae hefyd wedi diolch i bawb fu’n gysylltiedig â’r gwaith achub ac adfer yn sgil y llifogydd diweddar yn y gogledd a’r canolbarth.
“Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r rheini a welodd y llifogydd yn effeithio ar eu cartrefi a’u busnesau dros gyfnod a ddylai fod yn llawn llawenydd.”
Ychwanegodd bod rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn parhau’n un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Galw am ragor o arian
Yn y cyfamser mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau rhagor o arian i atgyweirio’r difrod yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y llifogydd.
Mewn llythyr at y Canghellor George Osborne, dywed Tim Farron bod y gronfa o £50 miliwn yn 10% yn unig o’r £500 miliwn yr amcangyfrifir sydd ei angen i atgyweirio’r difrod a achoswyd i isadeiledd gan Storm Desmond yn Cumbria yn gynharach y mis hwn.
Mae wedi annog y Canghellor i roi swm cyfatebol i’r hyn sy’n cael ei godi gan apeliadau ar gyfer pobl yn Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn a Manceinion hyd at £2m, fel y gwnaeth yn Cumbria.
Mae Tim Farron hefyd yn galw ar weinidogion i bennu dyddiad ar gyfer adolygiad y Llywodraeth o brosiectau amddiffynfeydd llifogydd.