Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw gyrrwr beic modur fu farw mewn damwain ffordd ar yr M4 ddydd Nadolig.

Bu farw David Evans, 49 oed, o Caldicot yn y digwyddiad am 6yh, 25 Rhagfyr ar yr M4 rhwng cyffordd 24 a 28.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 250 25/12/15.