Mae pedwar ifanc o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhonna ger Castell-nedd yn oriau man y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad yn Heol Castell-nedd, Tonna toc wedi 3.30yb bore dydd Mawrth.

Dim ond un cerbyd oedd yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad.

Roedd y rhai gafodd eu hanafu rhwng 15 a 21 oed. Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod un o’r pedwar wedi cael anafiadau sy’n bygwth bywyd, ac un arall wedi cael anafiadau difrifol. Cafodd y ddau berson arall driniaeth am fan anafiadau.

Cafodd y pedwar person eu cludo i ysbyty Treforys yn Abertawe.

Bu’r ffordd ynghau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad ar y safle ond mae bellach wedi ailagor.