Mae Cymdeithas Adeiladu Leeds wedi dweud ei bod yn rhoi’r gorau i roi benthyg arian i bobol sydd eisiau morgais i brynu ail gartref.
Y rhesymeg, yn ôl y gymdeithas adeiladu, yw’r ffaith fod ail gartrefi yn lleihau nifer y tai sydd ar gael i bobol fyw ynddyn nhw’n barhaol.
Fodd bynnag, ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar dai sy’n cael eu gosod fel tai haf i’w rhentu.
“Mae unrhyw dŷ heblaw am y prif gartref fel rheol yn wag am y rhan fwyaf o’r amser, sydd ddim yn helpu’r gymuned leol na chwaith yn cyfrannu i’r economi leol,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Adeiladu Leeds.
Mesurau Llywodraeth Cymru
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau newydd i fynd i’r afael ag effaith negyddol ail gartrefi.
Dan y mesurau diweddaraf, fe fydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd yn cael eu cyflwyno – ar gyfer prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Lle mae ganddyn nhw dystiolaeth, bydd cynghorau sir yn gallu gorfodi perchnogion i ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo tŷ o un dosbarth i’r llall.
Felly, mewn egwyddor, byddai modd i gyngor sir atal troi cartref parhaol yn dŷ haf mewn ardal lle mae gormod ohonyn nhw.
Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol i alluogi cynghorau sir i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
Ar ben hynny, mi fydd yna ofyn cyfreithiol i gael trwydded i gynnal llety gwyliau tymor byr.
Ac mi fydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda chynghorau sir i ddatblygu fframwaith cenedlaethol er mwyn gallu cynyddu cyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau mewn ardaloedd penodol.
Cafodd y pecyn o fesurau ei groesawu gan y grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, sy’n dweud ei fod fwy neu lai yn ateb eu pryderon.
‘Popeth yn chwarae ei ran’
Cafodd cynlluniau Llywodraeth Cymru groeso gofalus gan arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, er ei fod o’r farn fod yna elfennau o’r cynlluniau y “medrwn ni fod yn gwella arnyn nhw”.
“Mae’r pecyn mesurau yn bwysig, mae popeth yn chwarae ei ran,” meddai wrth golwg360.
“Mae gennym ni lawer o bethau y gallwn ni ddefnyddio – mae trethiant yn bwysig, mae cynllunio yn bwysig, mae trwyddedu yn bwysig.
“Felly rydan ni’n croesawu yn fawr beth mae’r Llywodraeth wedi ei wneud, ac yn falch iawn eu bod nhw’n gweithredu.
“Mae pa mor ymarferol ydi rhai o’r pethau yma’n gwestiwn arall.
“Mae’r maes cynllunio, er enghraifft, yn faes eithaf dyrys.
“Mi fysa ni’n gorfod casglu tystiolaeth, mi fysa ni’n gorfod profi pam ein bod ni eisiau cyflwyno’r dosbarthiadau defnydd newydd yma, hwnna ydi’r cam cyntaf.
“O gael hwnnw yn ei le, pe baen ni eisiau gorfodi neu blismona’r peth yna mae’r drefn gynllunio yn gallu bod yn araf deg ac yn drwsgl iawn.
“Felly dw i ddim yn siŵr pa mor effeithiol fydd o o safbwynt hynny.
“Ond wedi dweud hynny, mae’r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n barod i roi mwy o adnoddau i ni, felly fe gawn ni weld.
“Fe fydd yn rhaid i ni weithio ar y peth.”