Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi pryderon ynghylch “cynnydd brawychus” yn nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl o ddigartrefedd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Diffyg gweithredu gan Lywodraeth San Steffan ar gostau byw sydd i’w feio, yn ogystal â deddfau tai gwael gan Lywodraeth Cymru, yn ôl yr arweinydd Jane Dodds.

Daw hyn ar ôl i ffigyrau gafodd eu cyhoeddi’r wythnos hon ddangos cynnydd yn nifer y bobol sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yng Nghymru.

Yn ôl data Llywodraeth Cymru, roedd nifer yr aelwydydd dan fygythiad o ddigartrefedd yn y flwyddyn 2021-22 yn 9,228 – cynnydd o 27% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Yn y cyfamser, nodwyd bod 4,085 o aelwydydd yn ddigartref yn anfwriadol ac mewn angen blaenoriaeth, sy’n gynnydd o 8% ar y llynedd.

‘San Steffan wedi methu’n llwyr’

“Mae’r ffigyrau yma’n frawychus dros ben,” meddai Jane Dodds.

“Does dim amheuaeth mai un o’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at hyn yw’r cynnydd mewn chwyddiant sy’n digwydd ar hyn o bryd.

“Gyda biliau bwyd ac ynni yn cynyddu cymaint nid yw’n syndod fod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd.

“Mae’r codiadau pris cyflym hyn wedi achosi i ansefydlogrwydd ariannol difrifol ymhlith teuluoedd gyda chartrefi tlotach yn dioddef fwyaf.

“Mae’r Blaid Geidwadol yn San Steffan wedi methu’n llwyr â chyflwyno lefel y gefnogaeth sydd ei angen i atal y dioddefaint hwn.

“Yn hytrach, maen nhw’n brysur yn ymladd rhyfel mewnol ac yn trafod toriadau i dreth corfforaeth.

“Ond dyw Llywodraeth Cymru ddim ddieuog yn yr argyfwng yma chwaith.

“Mae’r penderfyniad a wnaed gan Lafur Cymru i oedi diwygiadau rhentu yng Nghymru yn debygol o gyfrannu at ansicrwydd tai.

“Yn hytrach na gwahardd troi allan heb fai fel Lloegr a’r Alban, dyw Llafur ddim ond wedi dewis cynyddu’r cyfnod rhybudd o 2 fis i 6 mis, gyda hyd yn oed y camau cyfyngedig yma’n cael eu gohirio.

“Gyda disgwyl i’r argyfwng costau byw waethygu’n sylweddol wrth i ni ddod i’r gaeaf, mae angen gweithredu cryf gan Lywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ar frys.”