Mae cynlluniau i greu “profiad gwyliau unigryw” yn Nyffryn Ceiriog wedi cael eu gwrthod yn sgil pryderon y byddai’n tarfu ar lonyddwch yr ardal.
Cafodd cynigion eu cyflwyno ym mis Ebrill i godi dau gaban gwyliau ar dir yn Tyn Twll yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog.
Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno gan y teulu Edwards, sy’n rhedeg fferm oddeutu 1,000 erw ar y safle.
Dywedon nhw y byddai’n cynnig llety ychwanegol i dwristiaid ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cyfrannu at yr economi leol.
Ond mae’r cynllun wedi cael ei wrthod gan swyddogion cynllunio Cyngor Wrecsam ar ôl iddyn nhw godi pryderon am yr effaith ar gymeriad yr ardal.
Amrywio busnes
Daw’r penderfyniad er gwaetha’r ffaith fod asiantiaid ar ran y teulu Edwards yn honni y byddai’n eu helpu nhw i amrywio’u busnes.
“Mae gan Mr a Mrs Edwards ddiddordeb mewn amrywio i gynhyrchu mwy o incwm ac elw i leihau eu dibyniaeth ar amaeth craidd,” meddai datganiad cynllunio yn cyd-fynd â’r cynigion.
“Mae twristiaeth yn Wrecsam wedi parhau i dyfu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Safle Treftadaeth y Byd yn Nhrefor a digwyddiadau lleol yn denu miloedd i’r ardal bob blwyddyn.
“Mae Polisi Cynllunio Cymru’n annog amrywio busnesau fferm a rhannau eraill o’r economi leol ar gyfer defnydd twristaidd addas yn unol â rhagofalon digonol ar gyfer cymeriad ac ymddangosiad cefn gwlad, yn enwedig y tirlun, bioamrywiaeth a gwerth cyfleusterau lleol.
“Mae’r datblygiad sy’n cael ei gynnig ar ymyl ardal goediog sefydledig i ffwrdd o’r fferm.
“Gellir lleoli a datblygu’r datblygiad arfaethedig heb effaith andwyol ar y tirlun a’r coed sydd yno eisoes.”
Dywedodd asiantiaid y byddai mynediad i’r cae lle’r oedd y cynnig i godi’r cabanau’n cael ei wella, gyda llefydd parcio wedi’u darparu drws nesaf i’r cabanau.
Ond wrth wrthod y cais, dywedodd swyddogion hefyd fod tystiolaeth annigonol wedi’i darparu i ddangos na fyddai’r cynigion yn arwain at gynnydd mewn lefelau ffosffad yn Afon Dyfrdwy gerllaw.