Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i fachgen 14 oed, oedd ar ei feic, fod mewn gwrthdrawiad a bws yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Cafodd y bachgen anaf difrifol i’w ben yn y gwrthdrawiad a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tu allan i siop Kwik Fit yn Heol Casnewydd, Caerdydd tua 3.30yp bnawn dydd Llun, 28 Rhagfyr.

Mae’n debyg bod nifer o dystion oedd ar y bws X59 wedi gadael cyn i’r heddlu gyrraedd ac mae Heddlu’r De yn apelio arnyn nhw i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500 477 117.