Kyle Vaughan
Mae mam sy’n marw o ganser wedi apelio ar i’r rheiny sy’n gwybod lle mae corff ei mab yn gorwedd, i ddweud hynny cyn ei bod hi’n rhedeg allan o amser.

Mae yna ddirgelwch o gwmpas diflaniad Kyle Vaughan, 24. Fe ddaethpwyd o hyd i’w gar wedi’i adael ar ffordd fynydd yn ne Cymru yn 2012, gan annog yr heddlu i ddechrau ymchwilio i’w lofruddiaeth.

Ond, a hithau bron iawn yn dair blynedd union ers diflaniad Kyle Vaughan, mae ei fam, Mary Lucas, wedi apelio ar i bobol ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth a allai arwain at ddatrys yr achos.

Mae’r wraig 53 oed bellach yn diodde’ o ganser ar yr iau, ac fe allai ei hamser ar y ddaear fod cyn lleied ag ychydig wythnosau. Fedr hi ddim meddwl am farw heb wybod be’ ddigwyddodd i’w hunig blentyn, meddai.

“Mae’r meddygon wedi dweud nad ydyn nhw’n gwybod faint o amser sydd gyda fi’n weddill,” meddai. “Fe allai fod yn wythnosau. Os wy’n lwcus, fe ga’ i fisoedd.

“Fe ddylen i allu ffarwelio’n iawn gyda fy mab…” meddai, “a rhoi angladd iddo fe. Mae meddwl am fynd i’r bedd heb wybod yn rhy greulon i mi feddwl amdano fe.

“Wy jyst isie gwybod lle mae Kyle,” meddai Mary Lucas wedyn. “Mae rhywun mas yna yn gwybod rhywbeth. Wy isie iddyn nhw roi eu hunain yn fy sgidie i, a dweud wrtha’ i ble mae Kyle.”

Does neb wedi gweld Kyle Vaughan – ‘ Jabbers’ i’w ffrindiau – ers Rhagfyr 30, 2012, ac roedd hynny yn ei gartre’ yn Nhrecelyn, Caerffili.

Yn ddiweddarach y noson hon, fe ddaethpwyd o hyd i’w gar Peugeot 306 lliw arian wedi’i ddifrodi ar ffordd yr A467 rhwng Rhisga a Crosskeys.