Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio, wedi i ladron ddwyn cyfrifiaduron o eglwys yng Nghaerffili ar ddydd Nadolig.

Er iddyn nhw hefyd geisio mynd ag arian o’r sêff, fe fethon nhw â chario hwnnw yn llawn dogfennau hanesyddol ymhellach na’r maes parcio.

A dim ond wedi i’r sêff gael ei ganfod ym maes parcio Eglwys St Martin gan aelod y cyhoedd, y cafodd Heddlu Gwent eu galw yn ystod oriau mân Diwrnod San Steffan.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn galw ar i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad, i gysylltu ar y rhif 101.