Mae un o ohebwyr The Telegraph yn annog pobol o Loegr i ddod i Gymru i gadw’n cŵl yn y gwres.

Yn yr erthygl sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 18), mae 16 o ohebwyr yn rhannu eu cyngor – sy’n amrywio o orwedd o dan dair ffan, cael cawod oer a defnyddio tywelion gwlyb i wisgo mygydau, gorwedd ar fat y ci a “mynd i Gymru”.

Awgrym Dylan Jones yw hynny, sy’n dweud bod ganddo fe fwthyn ger y Gelli Gandryll, “yn swyddogol, y lle gwlypaf yng Nghymru”.

Ond yn ôl y rhagolygon, mae hi’n 25 gradd selsiws yno heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 18).

“Mae ein bwthyn i fyny ym Mannau Brycheiniog, felly mae hi sawl gradd yn fwy cŵl nag y mae hi i lawr yn y dref,” meddai.

“Gall fod yn ddiwrnod arferol o dwym islaw, tra ar ein mynydd fe fydd yna wynt cryf, cymylau llwyd yn chwyrlïo a glaw llorweddol.

“Felly bydd gwisg hafaidd yn aml yn cynnwys mac glaw a phâr o Hunters yn ogystal â chrys-T a throwsus byrion.

“Ac mae Cymru mor hardd nes nad oes fawr o ots sut mae’r tywydd yno.”