Mae gweinidogion cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd mwy o gamau i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Mewn llythyr at y Canghellor Nadim Zahawi, dywed y tri fod rhaid iddyn nhw sicrhau prisiau ynni mwy cynaliadwy yn y tymor hir.

Yn y llythyr, mae Rebecca Evans o Gymru, Kate Forbes o’r Alban a Conor Muprhy o Ogledd Iwerddon yn tynnu sylw at “feysydd allweddol sydd angen sylw” wrth baratoi’r Gyllideb nesaf.

Ynghyd â’r argyfwng costau byw, maen nhw’n tynnu sylw at gyflogau yn y sector gyhoeddus ac yn galw am gynyddu cyllidebau’r tair gwlad i gyd-fynd â’r pwysau sydd ar wasanaethau.

Argyfwng costau byw

“Mae ein Llywodraethau’n parhau i wneud popeth yn ein gallu i gynyddu’r gefnogaeth i aelwydydd gyda’r argyfwng costau byw,” meddai’r gweinidogion.

“Fodd bynnag, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â nifer o’r pwerau i wneud y gwahaniaeth mwyaf.

“Er ein bod ni’n cydnabod bod y mesurau sydd wedi’u cymryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn hyn wedi codi peth o’r pwysau ar aelwydydd, mae angen mwy o weithredu er mwyn mynd i’r afael â bylchau sylweddol yn y gefnogaeth i aelwydydd, teuluoedd, busnesau a gwasanaethau sy’n agored i niwed.

“Bydd y posibilrwydd bod y cynydd yng nghap prisiau ynni yn yr hydref yn uwch na’r disgwyl yn cynyddu at y pwysau.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau mwy pendant i sicrhau prisiau ynni mwy cynaliadwy yn y tymor hir.

“Dydy’r argyfwng costau byw ddim yn effeithio ar bawb yn hafal, a dylai’r pwyslais fod ar gynnig cefnogaeth wedi’i dargedu i’r rhai sy’n cael eu heffeithio waethaf, yn hytrach na chwtogi trethi eang.

“Ni ddylai toriadau i drethi arwain at reolaeth dynnach ar wariant, a fyddai’n effeithio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau mawr yn barod.”

Cynyddu’r cyllidebau

Mae gweinidogion cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynyddu cyllidebau’r tair gwlad i gyd-fynd â’r pwysau ar wasanaethau hefyd.

“Yn sgil pwysau chwyddiannol, mae ein cyllidebau ar gyfer y tair blynedd nesaf werth llawer llai nar nag oedden nhw pan gafodd y cynlluniau gwario eu paratiu’r llynedd,” medden nhw.

Yn ôl y tair gwlad, mae’r cynnydd mewn costau ynni cyhoeddus a phwysau ar wasanaethau fel addysg a’r gwasanaethau iechyd yn golygu y dylid cynyddu eu cyllidebau yn unol â’r pwysau hynny.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn troi’n 75 oed y flwyddyn nesaf ac mae hyn yn gyfle mawr ei angen i gynyddu faint sy’n cael ei wario ar y gwasanaeth,” meddai’r tri.