Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd Cymru i godi pryderon am gapasiti adrannau brys a lles cleifion yn ystod y gwres eithafol sydd i’w ddisgwyl yr wythnos hon.

Gyda’r tymheredd yng Nghymru yn debygol o fynd y tu hwnt i 35 gradd ac o bosib 40 mewn rhai ardaloedd ar y ffin, mae yna bryder y gallai adrannau damweiniau ac achosion brys gael eu gorlethu ac y gallai cleifion gael eu gadael yn aros yn y gwres.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru eisoes dan straen mawr, hyd yn oed cyn Covid a’r rhybudd gwres eithafol,” meddai Jane Dodds.

“Er bod cyfrifoldeb personol ar bob un ohonom wrth gwrs i wneud ein rhan ac osgoi rhoi straen diangen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar hyn o bryd drwy aros yn hydradol a chymryd rhagofalon synhwyrol yn erbyn y gwres, ond mae hefyd yn bwysig bod y Llywodraeth a byrddau iechyd Cymru yn gweithredu i liniaru yn erbyn risgiau posibl i ddiogelwch cleifion.

“Mae cleifion damweiniau ac achosion brys yn gorfod aros am oriau yn rheolaidd mewn ambiwlansys y tu allan i ysbytai prysur neu mewn coridorau y tu mewn i ysbytai.

“Yn amlwg, yn y gwres eithafol, byddai hyn yn codi pryderon sylweddol am les cleifion.

“Rydym yn cydnabod y pwysau y bydd y gwres eithafol nid yn unig yn ei gael ar gleifion, ond hefyd ar weithwyr meddygol a chymorth.

“Yn y darlun ehangach, mae maint y gwres eithafol sy’n cael ei ragweld yn dangos yr effaith ofnadwy y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein bywydau.

“Rhaid inni barhau i fynd ymhellach ac yn gyflymach i weithio tuag at economi di-garbon a rhoi mesurau lliniaru ar waith, er enghraifft, cynyddu gorchudd coed mewn ardaloedd trefol.”