Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol yr wythnos hon i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobol yn y gogledd yn ddiogel.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022, sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon o Orffennaf 18-22, yn anelu i annog cymunedau i wrthsefyll ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amlygu’r camau y gall y rhai hynny sy’n ei brofi eu cymryd.

Wedi’i drefnu gan Resolve, sef prif sefydliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y Deyrnas Unedig, mae’r wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys cynghorau, heddluoedd, cymdeithasau tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.

Er mwyn nodi dychweliad Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022, mae’r Comisiynydd yn ymweld â Llangefni, Pwllheli a Wrecsam drwy gydol yr wythnos er mwyn gweld prosiectau sydd ar y gweill i ymgysylltu a chynorthwyo pobol ifanc lleol a dioddefwyr trosedd.

Bydd hefyd yn ymuno â swyddogion heddlu ar batrôl i weld gweithgarwch yn digwydd er mwyn atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol.

‘Peidiwch â diodde’n dawel’

Canfu ymchwil diweddar gan YouGov, a gafodd ei gomisiynu gan Resolve fod 56% o bobol yn credu bod ‘angen gwneud mwy’ i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymunedau.

Fodd bynnag, ar ôl iddyn nhw weld neu brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywedodd cyfran debyg o’r cyhoedd (57%) na wnaethon nhw hysbysu neb amdano.

Mae Andy Dunbobbin yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio â diodde’n dawel os ydyn nhw’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae modd hysbysu’r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Cyngor lleol neu’r heddlu am ddigwyddiadau os ydy pobol yn teimlo eu bod nhw mewn perygl neu’n wynebu risg uniongyrchol.

Mae cyflwyno cymdogaethau mwy diogel i drigolion ac ymwelwyr yn y gogledd yn rhan allweddol o Gynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld sawl menter i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud strydoedd yn fwy diogel.

Cyllid

Er enghraifft, mae cyllid ar gael i ymgysylltu pobol mewn gweithgareddau cadarnhaol drwy’r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, a gaiff ei chefnogi hefyd gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a’r Heddlu Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu’r Gogledd.

Mae’r cyllid ar gyfer hyn yn aml yn cael ei gasglu drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, gan ddefnyddio arian sydd wedi’i atafaelu gan droseddwyr.

Mae cyllid hefyd wedi mynd i grwpiau Sgowtiaid lleol, clybiau crefft ymladd a mentrau fel yr Youth Shedz ym Mae Cinmel ac Abergele.

Mae arian hefyd wedi’i sicrhau er mwyn gwella diogelwch ledled ein rhanbarth.

Yn Wrecsam, mae cyllid wedi cynorthwyo i leihau’r nifer o droseddau sy’n cynnwys trais yn erbyn merched a genethod.

Mae’r fenter Strydoedd Diogelach yn cynnwys gwella CCC, creu lleoedd mwy diogel i ferched a genethod ynghyd a rhoi hyfforddiant ac addysg.

Mae cyllid hefyd wedi mynd tuag at atal llecynnau trosedd ym Mae Colwyn a Bangor.

Mae hefyd yn targedu gangiau a throseddwyr trefnedig sy’n dod o du allan i’r ardal drwy dechnoleg fel adnabod platiau rhif awtomatig.

Yn ein cymunedau cefn gwlad, mae prosiect Future Farms Cymru yn cael ei gynllunio’n gyfan gan Dîm Troseddau Cefn Gwlad arloesol Heddlu’r Gogledd.

Fel rhan o’r cynllun, mae synwyryddion sy’n cysylltu â larwm ap y mae ffermwyr yn ei dderbyn ar unwaith os ydy unrhyw beth yn cael ei ddwyn.

‘Pla ar ein cymunedau’

Yn ôl Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, “mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bla ar ein cymunedau”.

“Mae gan bobol yr hawl i deimlo’n ddiogel a ddylai neb fod ag ofn neu gael eu brawychu yn eu bywyd a’u busnes bob dydd,” meddai.

“Mae ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ffordd werthfawr iawn o amlygu’r cymorth sydd ar gael i drigolion ac ymwelwyr sy’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Buaswn yn annog unrhyw un i hysbysu eu swyddogion Cyngor lleol neu’r tîm plismona lleol am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol maent yn ei brofi

“Drwy gydol yr wythnos hon, rwyf yn edrych ymlaen at ymgysylltu gyda thrigolion lleol a swyddogion heddlu, ac at weld popeth sy’n cael ei wneud ledled gogledd Cymru.

“Mae hyn er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo cymunedau lleol.”

‘Blaenoriaeth’

Yn ôl yr Uwcharolygydd Helen Corcoran, mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn “flaenoriaeth” i Heddlu’r Gogledd, ac “yn gyfle i bwysleisio problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r effaith y gall hyn ei chael ar gymunedau”.

“Mae pobol yn haeddu teimlo’n ddiogel, ac mae ein gweithgareddau yr wythnos hon yn pwysleisio’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda phartneriaid yn ddyddiol yn cefnogi eich cymunedau ac yn mynd i’r afael ag ASB.”

Dywed Rebecca Bryant, Prif Weithredwr Resolve, nad yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn “drosedd lefel isel”.

“Gall gael effaith hirhoedlog ar fywydau dioddefwyr a chymunedau a gall ragflaenu trosedd mwy difrifol,” meddai.

“Mae’n bwysig fod her ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i gael y flaenoriaeth mae ei angen fel bod pobol ym mhob man yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau.

“Rydym yn falch fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’i swyddfa yn cefnogi’r ymgyrch hynod bwysig hon.

“Mae’n hanfodol datblygu partneriaethau ledled cymunedau er mwyn ymdrin gyda’r heriau cynyddol ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.”