Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion, wedi i ddyn 26 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe yn ystod oriau mân Gwyl San Steffan.

Mewn datganiad, mae’r heddlu’n dweud i’r ddamwain ddigwydd tua 3 o’r gloch y bore ar ffordd yr A4067 ger Treforys.

Bu farw dyn 26 mlwydd oed yn y fan a’r lle, ond chafodd gyrrwr fan Ford Transit wen ddim ei anafu o gwbwl yn y digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y ddamwain, i’w ffonio gyda gwybodaeth ar y rhif 101.