Indi Weligamag (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai gweinyddes mewn gwesty oedd y wraig a gafodd ei lladd mewn damwain car ar briffordd yr A55 noswyl Nadolig.

Bu farw Mrs Indi Weligamag, 31, mewn gwrthdrawiad ger Pensarn, Abergele, nos Iau. Roedd wedi gweithio yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ers beth bynnag saith mlynedd.

Bu farw ei gwr mewn damwain car yn 2010.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i natur ac amgylchiadau’r ddamwain a ddigwyddodd ger cyffordd 24 yr A55, ger y ffordd ymadael i Abergele tua 7.30yb, Rhagfyr 24.