Mae cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar argymhellion yr ymgynghoriadau gafodd eu cynnal i ystyried y ffordd orau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Ngwynedd wedi pasio siambr Cyngor Gwynedd.
Pleidleisiodd 47 gynghorwyr o blaid y cynnig a gafodd ei gyflwyno gan Rhys Tudur, Cynghorydd Llanystumdwy, gyda phum aelod yn ymatal ac un yn pleidleisio yn erbyn.
Roedd argymhellion yr ymgynghoriadau a ddaeth i ben ym mis Mawrth yn galw am gyflwyno deddfwriaeth a pholisi cynllunio i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai cymunedau Cymreig, yn ogystal â chaniatáu amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodion tir.
‘Cynyddol argyfyngus’
Er ei fod yn cymeradwyo’r argymhellion hyn, mae Rhys Tudur yn credu bod angen i’r Llywodraeth weithredu arnyn nhw cyn gynted â phosib.
“Mae ymgynghoriadau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn cynnig pethau hynod arwyddocaol, felly dw i’n cydnabod hynny,” meddai wrth golwg360.
“Y cyntaf yn creu dosbarth cynllunio penodol sy’n declyn effeithiol i roi cap ar niferoedd yr ail dai mewn ardaloedd.
“Yr ail yn creu treth tir penodol ar ail dai wrth fynd drwy’r broses prynu.
“A’r trydydd yn cynnig gwell gwarchodaeth i gymunedau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y boblogaeth, trwy roi mesurau penodol yn eu lle, fel cyfnod blaenoriaeth i brynwyr tro cyntaf.
“Maen nhw wedi cynnig y pethau iawn felly dw i’n gwybod y gwnân nhw benderfynu rhoi’r rheini ar waith.
“Y rheswm am fy nghynnig oedd fy mod i’n gweld amser yn llithro, a dw i’n gobeithio’n fawr fod yna ddim haf arall yn pasio lle mae hi’n gynyddol argyfyngus fel ag y mae hi.
“Dw i ddim eisiau sefyllfa lle mae can yn cael ei gicio lawr y lôn a dim byd yn digwydd, lle mae pobol leol yn dal i gael eu prisio allan a’r anfoesoldeb yn parhau.
“Dydy hi byth yn rhy hwyr ond dw i ddim eisiau oedi o gwbl, achos mae hi’n sefyllfa mor argyfyngus, ac mae hi jyst yn mynd yn waeth ac yn waeth.
“Rydan ni’n ymgyrchu i gael cydymdeimlad pobol i’n sefyllfa ni, a dweud y gwir, uniaethu efo ni, dyna’r nod mewn ffordd.”