Mae Casnewydd am geisio sicrhau bod yr iaith Gymraeg i bawb yn y ddinas gael uniaethu â hi.

Mae’r ymgyrch ‘Many Faces of Welsh-ness’ yn anelu i greu hunaniaeth Gymraeg a sicrhau cynhwysiant ar draws y ddinas.

Mewn cyfarfod Trosolwg a Chraffu heddiw (dydd Gwener, Mehefin 24), cafodd yr adroddiad iaith Gymraeg blynyddol ei gyflwyno i’r pwyllgor.

“Efallai ei bod hi’n cael ei hystyried yn iaith Brydeinig gwyn ond rydym yn ceisio ymgysylltu â phob cymuned yng Nghasnewydd yn yr iaith,” meddai Janice Dent, rheolwr polisi a phartneriaethau’r Cyngor.

Ychwanega y gallai ymgysylltu â’r iaith helpu pobol i deimlo’n fwy cartrefol yng Nghasnewydd ac yng Nghymru.

“Mae eithaf lot o bobol ethnig leiafrifol eisiau i’w plant siarad Cymraeg,” meddai’r Cynghorydd Miqdad Al-Nuaimi, sy’n cynrychioli Stow Hill.

Cymraeg yn y Gymuned

Fe wnaeth yr adroddiad gyfeirio hefyd at gynllun grant Cymraeg yn y Gymuned, sy’n anelu i gefnogi gweithgareddau ledled Casnewydd sy’n hybu’r iaith.

Ers mis Mai y llynedd, mae mwy na £32,000 wedi’i roi i grwpiau a chymunedau lleol – defnyddiodd Eglwys Mynydd Seion

In Since May 2021, more than £32,000 has been handed out to local groups and communities – Eglwys Mynydd Seion eu grant i brynu cyfarpar i greu podlediad yn y Gymraeg, a defnyddiodd Meithrin Brynglas eu grant i brynu teganau ac adnoddau Cymraeg.

Fe wnaeth y Cynghorydd Llafur Al-Nuaimi a’r Cynghorydd Ceidwadol Matthew Evans ofyn am gael cynnwys rhagor o fanylion yn yr adroddiad, yn ogystal â nodau cliriach o ran cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Unwaith eto, rydym yn cydnabod, tra ein bod ni wedi gwneud cynnydd da mewn nifer o feysydd o dan amgylchiadau heriol, fod yn rhaid i ni barhau i wella ein perfformiad iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar waith y Cyngor,” meddai’r prif weithredwr Beverly Owen yn yr adroddiad.

Bydd yr adroddiad nawr yn mynd gerbron y Cabinet i’w gymeradwyo.