Mae etholaethau traddodiadol y wal goch yn dychwelyd at y Blaid Lafur, yn ôl Anna McMorrin, Aelod Seneddol Llafur Gogledd Caerdydd.
Daw hyn ar ôl i’r blaid adennill etholaeth Wakefield oddi ar y Ceidwadwyr mewn is-etholiad neithiwr (nos Iau, Mehefin 23).
Trechodd y Llafurwr Simon Lightwood yr ymgeisydd Torïaidd, Nadeem Ahmed, o 4,925 o bleidleisiau, gan wrthdroi mwyafrif o 3,358.
Roedd Llafur wedi dal y sedd ers 87 mlynedd nes iddi hi, a nifer o etholaethau yng nghadarnleoedd y blaid, droi yn las yn etholiad cyffredinol 2019.
Yn y cyfamser, fe lwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gipio Tiverton and Honiton gan y Ceidwadwyr, gyda’u hymgeisydd Richard Foord yn gwrthdroi mwyafrif Torïaidd o fwy na 24,000 – gogwydd o 30%.
Y cyhoedd heb “unrhyw hyder yn y Llywodraeth”
Disgrifiodd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, y canlyniad yn Wakefield fel un “gwych”.
“Mae’r Blaid Dorïaidd colli gafael arni’i hun,” meddai.
“Maen nhw’n gwybod eu bod nhw wedi rhedeg allan o syniadau ac maen nhw allan o gysylltiad.
“Pe bai ganddyn nhw unrhyw hunan-barch, bydden nhw’n camu o’r neilltu i’r Llywodraeth Lafur nesaf oherwydd roedd yr hyn a ddigwyddodd yma yn Wakefield yn arwydd clir nad oes gan y cyhoedd unrhyw hyder yn y Llywodraeth.”
‘Prif Weinidog celwyddog’
Mae’r canlyniad yn anfon “neges glir” i Boris Johnson, medd Anna McMorrin.
“Mae hon yn fuddugoliaeth hanesyddol, buddugoliaeth ysgubol i’r Blaid Lafur,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n anfon neges glir iawn fod y wlad hon wedi cael llond bol ar gelwyddau Boris Johnson a’i Lywodraeth.
“Ond does dim lle i fod yn hunanfodlon, mae gennym ni lot o waith i’w wneud ac mae’n rhaid i ni fod yn glir ynghylch beth fyddai Llywodraeth Lafur yn ei gynnig i’r wlad.
“Rydyn ni wrthi yn amlinellu ein cynlluniau.
“Mae hi’n gwbl glir fod y wlad hon yn haeddu cael Llafur mewn grym yn hytrach na’r Prif Weinidog celwyddog, di-hid yma a’i Lywodraeth.
“Mae hi nawr i fyny i Aelodau Seneddol Ceidwadol a ydyn nhw am gael gwared arno.
“Nid yn unig rydyn ni wedi gweld y Ceidwadwyr yn colli dau is-etholiad y bore ‘ma, ond rydyn wedi gweld cadeirydd y blaid [Oliver Dowden] yn ymddiswyddo, ac yn y cyfamser mae ei feinciau cefn yn cynllwynio yn ei erbyn.
“Os nad yw hynny yn neges glir eu bod wedi cael digon arno, yna wyddwn i ddim beth sydd.
“Ond dw i’n meddwl y bydd yn rhaid i Boris Johnson gael ei lusgo allan yn cicio a sgrechian gan ei blaid ei hun.”