Mae Cymru’n wynebu “argyfwng prinder deintyddion” wrth i fwy na 14% o ddeintyddion y wlad agosáu at oed ymddeol, yn ôl rhybudd gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y blaid yng Nghymru, bydd y sefyllfa’n un ddifrifol mewn ardaloedd gwledig fel Powys a Cheredigion.

Rhybuddia Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod y Blaid Lafur yn “cysgu” ac nad yw hi’n syndod fod pobol yn troi at “ddeintyddiaeth DIY”.

Dangosodd un pôl y llynedd fod 19% o ddeintyddion yn credu y bydd hi’n cymryd dros ddwy flynedd iddyn nhw weld y cleifion sydd ar restrau aros.

Yn ôl arolwg gan Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, mae pobol yng Nghymru yn tynnu eu dannedd allan gartref gan nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i ddeintydd.

Daeth adroddiad yn edrych ar y sefyllfa yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a gafodd ei gydlynu gan Jane Dodds, i’r canlyniad bod pobol yn byw mewn poen neu’n methu bwyta yn iawn oherwydd nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i driniaeth.

Dangosodd yr adroddiad mai’r bobol dlotaf sy’n dioddef fwyaf oherwydd nad ydyn nhw’n gallu fforddio talu am wasanaethau preifat.

‘Sgandal’

Yn ôl ystadegau StatsCymru, roedd 14.18% o ddeintyddion Cymru dros 55 oed yn 2020-21.

Rhwng 2019-20 a 2020-21, bu gostyngiad o 5% yn nifer deintyddion Cymru.

Gallai’r sefyllfa waethygu, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, a hynny wrth i weithwyr ystyried ymddeol.

Mae 20% o ddeintyddion Powys yn agosáu at oed ymddeol, a 21% o ddeintyddion Bwrdd Iechyd Hywel Dda, felly dyma’r ardaloedd sy’n wynebu “risg mwyaf o ecsodus”, meddai Jane Dodds.

“Mae’r ystadegau hyn yn dangos pam fod pobol, yn anffodus, yn troi at ddeintyddiaeth DIY dros Gymru,” meddai.

“Mae’r system ddeintyddol ar dorri, mae’n sgandal. Mae cael mynediad at ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd yn loteri cod post yn barod, a gyda 14% o ddeintyddion yn wynebu ymddeol yn fuan mae’n edrych fel bod y broblem am waethygu.

“Mae Llywodraeth Cymru’n cysgu pan ddaw hi at yr argyfwng yn neintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. I fod yn glir, nid y deintyddion sydd ar fai am yr argyfwng. Maen nhw’n gweithio’n ofnadwy o galed ac yn gorfod gweithio o fewn y system sy’n bodoli. Ond mae’r system honno wedi torri a dim ond y Llywodraeth all ei thrwsio.

“Yn amlwg, mae angen i’r Llywodraeth adolygu’r system sy’n gyrru deintyddion rhag darparu gwasanaethau ar y Gwasanaeth Iechyd. Mae’r diffyg deintyddion dan y Gwasanaeth Iechyd dros y wlad yn argyfwng gwirioneddol i bobol.

“I helpu i leihau’r pwysau tra bod mwy o ddeintyddion yn cael eu hyfforddi, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cynyddu argaeledd therapyddion a nyrsys deintyddol, ynghyd â chyflwyno deintyddion Gwasanaeth Iechyd Gwladol teithiol sy’n gallu symud rhwng ardaloedd lle mae pryderon er mwyn clirio’r rhestrau aros.”

Plaid Cymru’n mynnu gweithredu ar yr “argyfwng” deintyddiaeth

Mae ffigurau’n dangos bod 83 yn llai o ddeintyddion yn cynnig triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd y llynedd o gymharu â 2020, a 117 llai nag yn 2019