Mae arwydd gan archfarchnad Aldi ar y cyfryngau cymdeithasol wedi achosi cryn dipyn o hwyl, wrth iddyn nhw hysbysebu “selsig blas Prydeinig”.
Roedd Olaf Cai Larsen ymhlith y bobol o Gymru sydd wedi trydar llun o’r arwydd, ac mae pobol wedi mynd ati i geisio dyfalu beth yw ystyr “blas Prydeinig”.
Ach a fi! pic.twitter.com/i9ouW9kAI5
— Olaf Cai Larsen (@OlafCaiLarsen) June 18, 2022
Wrth siarad â golwg360, mae llefarydd ar ran Aldi wedi dweud mai selsig Prydeinig â blasau amrywiol sydd yn cael eu cynnig, ond nad oedd ganddyn nhw wybodaeth wrth law i ddweud pa flasau sydd ar gael yn eu siopau.
Ond mae lle i gredu bod selsig Cumberland a selsig blas afal yn eu plith.
“Cwestiwn da,” meddai Olaf Cai Larsen wrth geisio ateb y cwestiwn “Beth yw blas Prydeinig?”, cyn ychwanegu “Ond dwi ddim yn ei ffansio’n bersonol”.
“Blas moeseg a mawredd, gydag awgrym o chwys siop fetio a blwmars heb eu golchi,” oedd cynnig Manon Rädge, tra bod Llion Iwan yn dweud bod y “sell by date wedi hen fynd”.
“Sut all dyn gael blas siom, cywilydd ac annhrefn?” meddai ymateb arall.
Ateb ychydig yn fwy athronyddol ddaw gan Roger H Edwards, sy’n dweud bod y blas yn cynnwys “sbeis ysgafn o hiliaeth, ynysigrwydd a hygoeledd – mae’r olaf yn arwain at duedd i gael eich perswadio’n hawdd i roi x yn y lle anghywir”.
Ond nid pawb welodd yr ochr ddoniol chwaith:
Ha you lot need to get a life ,does this seriously wind you https://t.co/L4gj5x0HsC Welsh and in Cardiff and the more you lot bang on about Britain and England being rubbish the more people like me turn against your whole agenda.
You are counter productive.— StuLloyd (@StuLloyd1969) June 19, 2022