Mae’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol, Janet Finch-Saunders wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod ag “obsesiwn” gydag ail gartrefi.
Roedd hi’n ymateb ar ôl i arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig ap Siencyn, ddweud bod “dim llawer wedi digwydd” ynglŷn â chynllun peilot Llywodraeth Cymru yn ei sir a’i fod “heb eglurder ac arweinyddiaeth” ar y mater.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun peilot yn bwriadu “adeiladu ar y cymorth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei ddarparu i fynd i’r afael â fforddiadwyedd yn ogystal ag edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, opsiynau rhentu, a’r hyn a wnawn ynghylch cartrefi gwag”.
Daeth sylwadau Dyfrig ap Siencyn wedi i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddweud bod y cynllun peilot yn cael ei dreialu yn Nwyfor, ym Mhen Llŷn.
Wrth siarad ar Radio Cymru dywedodd Dyfrig ap Siencyn nad oedd y Cyngor yn hollol siŵr beth sy’n cael ei dreialu gan Lywodraeth Cymru.
“Dydyn ni ddim yn siŵr beth mae’n ceisio’i gyflawni, mae swyddogion wedi cael eu penodi gan y Llywodraeth – dydyn ni ddim wedi bod yn rhan o hynny, felly rydyn ni’n gofyn y cwestiwn,” meddai.
“Rwy’n wirioneddol bryderus nad ydym yn glir iawn ynghylch beth yn union sy’n cael ei dreialu ac rwy’n cytuno â’r adroddiad sy’n dweud bod angen i’r Llywodraeth adrodd yn ôl ar hyn yn fuan i ddweud wrthym beth yn union y maen nhw’n ceisio’i wneud, diffinio’n glir yr hyn y maen nhw’n ceisio’i wneud, a sut y maen nhw’n mynd i werthuso hynny.”
“Chwerthinllyd”
Galwodd Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr dros Newid yn yr Hinsawdd, ar i Lywodraeth Cymru adolygu ei dull o fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mae cofrestr buddiannau diweddaraf Aelod y Senedd yn dangos ei bod yn berchen ar saith eiddo ar y cyd, gan gynnwys eiddo preswyl/gwyliau ym Mhorthaethwy gyda’i merch.
Fodd bynnag, galwodd am i’r “sosialwyr a’r cenedlaetholwyr” yn y Blaid Llafur a Plaid Cymru i ganolbwyntio ar adeiladu tai er mwyn lliniaru effeithiau ail dai.
“Mae data’r diwydiant yn awgrymu bod angen i Gymru adeiladu 12,000 o gartrefi’r flwyddyn erbyn 2031 ond cyn y pandemig prin yr oedd Llywodraeth Cymru’n cyflawni hanner hynny,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Yn 2018-19, gwelsom nifer yr eiddo a gwblhawyd yn gostwng i 30.6% yn is na’r lefelau a welwyd cyn datganoli.
“Mae’r methiant hwn i ddarparu cartrefi newydd yn cael ei ddwysáu gan y realiti bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwrando ar y polisïau synnwyr cyffredin yr wyf wedi’u cyflwyno, gan gynnwys ailgyflwyno’r cynllun Hawl i Brynu a diwygiadau i bolisi cynllunio.
“Yn hytrach, mae gan Lywodraeth Cymru obsesiwn â thargedu perchnogion ail gartrefi a busnesau gwyliau dilys.
“Mae hefyd yn gwbl chwerthinllyd bod Arweinydd Cyngor Gwynedd, chwe mis i mewn i’r cynllun hwn, yn parhau i fod yn ansicr ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn ei dreialu.”
“Mynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn y farchnad dai”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dyma’r cynllun peilot ail gartrefi mwyaf uchelgeisiol yn y Deyrnas Unedig a, thrwy weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd, rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol.
“Mae cynllun peilot Dwyfor yn un elfen o’r gwaith sydd ar y gweill i gyflawni ein hymrwymiad i gymryd camau radical ar unwaith gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn y farchnad dai bresennol, gan gynnwys yr effaith negyddol y gall ail gartrefi a thai anfforddiadwy ei chael mewn llawer o gymunedau ledled Cymru.
“Rydym wedi creu dwy rôl newydd sy’n allweddol i lwyddiant y cynllun peilot – Hwylusydd Tai Cymunedol a Rheolwr Peilot.
“Bydd y ddau swyddog yma yn gweithio gyda chymunedau lleol i roi cyhoeddusrwydd i’r cynllun peilot, hybu mynediad i gynlluniau tai presennol a threialu dulliau lleol o fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi.
“Bydd grŵp llywio, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’n partneriaid, yn cyfarfod yn fuan ac mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i gymryd rhan flaenllaw yn y grŵp pwysig hwnnw.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i ddiffinio a chyflwyno’r cynllun helaeth y mae’r peilot yn ei gynnwys.”