Mae Cynghorydd Tref ym Mhorthmadog yn anhapus â’r Eisteddfod Genedlaethol am ei bod yn bwriadu cludo cerrig yr orsedd plastig i’r dref.
Y bwriad yw cyhoeddi bod Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 yn dod i’r fro ar ddydd Sul, 26 Mehefin, yn y parc ger yr harbwr ym Mhorthmadog, gan osod y cerrig plasdig yno.
Fodd bynnag, mae yna gerrig yr orsedd go-iawn yn sefyll ym Mhorthmadog yn barod, ers Eisteddfod Genedlaethol 1987.
Yn ôl Alwyn Gruffydd, “does dim angen” y rhai plastig ym Mhorthmadog.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd bod yna lefydd eraill sydd heb gerrig yr orsedd fyddai’n well i’w rhoi nhw.
Mae hefyd yn anhapus na fuodd yna ymgynghori â’r Cyngor Tref o flaen llaw.
“Dim rheswm am y peth”
“Maen nhw’n dod â cherrig yr orsedd plastig o le maen nhw’n cael eu cadw, yn Aberystwyth dw i’n meddwl,” meddai Alwyn Gruffydd wrth golwg360.
“Ond mae yna gerrig yr orsedd yn y dref yn barod ers Eisteddfod Porthmadog 34 o flynyddoedd yn ôl.
“Synnu ydw i fod pobol yn gwario pres ar gludo pethau plastig ar draws gwlad ar yr un pryd ac mae pobol leol yn fan hyn wrthi fel lladd nadroedd yn codi arian tuag at yr Eisteddfod.
“Does yna ddim rheswm am y peth.
“Ac ar yr un pryd mae’r cerrig yr orsedd sydd yma mewn cae eang, digon o le i ddal y rhan fwyaf o Gymry faswn i’n dweud.
“Ond mae’r parc ger yr harbwr yn le bach cyfyng.
“Mae yna lefydd sydd heb gerrig yr orsedd, ond lle mae gen ti rai yn barod does dim eu hangen nhw nagoes.
“Maen nhw wedi penderfynu cynnal yr Eisteddfod yn Llŷn a’r cyhoeddi yn Eifionydd, does gen i ddim problem efo hynny.
“Ond alla i ddim deall llusgo’r pethau plastig yna yma, a ninnau efo cerrig go iawn yn barod.
“Mae’n debyg bod yna rywun yn rhywle sydd ddim yn ymwybodol bod yna gerrig yr orsedd yma yn barod wedi cymryd yn eu pennau bod hi’n syniad da dod a’r pethau plastig ‘ma yma.
“Yn sicr fuodd yna ddim ymgynghori o flaen llaw.
“Mae’r Cyngor Tref wedi ysgrifennu at yr Eisteddfod ond dydyn ni byth wedi cael ateb.”
“Budd economaidd i’r dref”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: “Ysgrifennodd yr Eisteddfod at Gyngor Tref Porthmadog ym mis Ebrill eleni i egluro’r rhesymau dros ddefnyddio’r cerrig symudol yn Seremoni Cyhoeddi’r Eisteddfod eleni, gan gynnwys y budd economaidd i’r dref ddaw yn sgil cynnal Seremoni’r Cyhoeddi yng nghanol Porthmadog yn hytrach nag ar y cyrion.
“Yr Orsedd sy’n penderfynu ar yr orymdaith mewn ymgynghoriad gyda staff yr Eisteddfod, ac roedd y swyddogion yn awyddus iawn i’r orymdaith gael ei gweld gan gynifer o bobol â phosibl yng nghanol y dref er mwyn codi proffil y digwyddiad ymhellach.”