O wyliau cefn gwlad i gigs ynghanol Caerdydd, mae yna ddigonedd ymlaen penwythnos yma. Dyma ‘Geid golwg360’…
Gŵyl Gwenllian, Bethesda
12 o Fehefin yw Diwrnod Gwenllian – merch Llywelyn ein Llyw Olaf a gipiwyd yn fabi oddi wrth ei chynefin a’i theulu a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham. Mae cyfres o weithgareddau yn cael eu cynnal o gwmpas ardal Dyffryn Ogwen i goffau’r Dywysoges Gymreig rhwng Dydd Gwener 10 Mehefin a Dydd Sul 12 Mehefin. Cefnogir y gweithgareddau gan Bartneriaeth Ogwen a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.
Mae darlith Ieuan Wyn am 7yh ar nos Wener (Mehefin 10), Teithiau cerdded (Mehefin 11 a 12), gweithdai celf i blant ac oedolion (Mehefin 12).
Pryd? Dydd Gwener (Mehefin 10) – dydd Sul (Mehefin 12)
Ble? Amryw o leoliadau o amgylch Dyffryn Ogwen
Gŵyl Gwenllian
Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion
Bydd Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion yn dathlu eu 75ain sioe gyda chystadlu a thraddodiadau cefn gwlad, cyfle i siopa ac i wrando ar gerddoriaeth fyw. I ddathlu’r achlysur, mae llu o atyniadau, yn cynnwys Meirion Owen a’r Quack Pack, arddangosiad hen beiriannau, cerddoriaeth fyw gan y Welsh Whisperer, ardal blant ac arddangosiad cŵn adar.
Pryd? 09:30yb ymlaen, dydd Sadwrn (Mehefin 11)
Ble? Caeau Gelli Angharad, A44 rhwng Aberystwyth a Chapel Bangor
Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion
Gig Plu, Eglwys Norwyaidd Caerdydd
Yn rhan o daith lansio eu halbwm, Tri, bydd Plu yn perfformio mewn lleoliad ‘eiconig’ sef yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Dyma fydd y gig gyntaf i’w gynnal yn yr Eglwys mewn dros ddwy flynedd. Y gwestai arbennig yn ymuno â nhw yw Dafydd Owain.
Pryd? Dydd Sadwrn (Mehefin 11)
Ble? Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Gig Georgia Ruth, Caerdydd
Mi fydd Georgia yn teithio ei halbwm Mai a gafodd ei rhyddhau yn 2020 – doedd yr albwm yma heb gael ei berfformio’n fyw oherwydd y pandemig. Dyma gyfle arbennig i glywed y campwaith hwn yn fyw ar ôl i’r albwm fod yn gysur i gymaint o bobl yn ystod misoedd hir y clo mawr. Yn ychwanegol i berfformio’r albwm, mi fydd Georgia Ruth yn rhyddhau EP newydd, Kingfisher ac yn perfformio traciau o’r cyfanwaith yma yn rhan o’r sioeau byw.
Pryd? 7:30yh Nos Wener (Mehefin 10)
Ble? The Gate, Caerdydd
Taith Gerdded Hanesyddol i Ddysgwyr
Fel rhan o waith croesawu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2024, bydd taith gerdded hanesyddol i ddysgwyr o amgylch Treorci.
Pryd? 1:15yh, dydd Sadwrn (Mehefin 11)
Ble? Taith yn cychwyn o Siop Cwm Farm, Parc Busnes Treorci, Treorci, CF42 6DL
Cwrw ar y Cledrau, Caernarfon
Mae gŵyl ‘Cwrw ar y Cledrau’, sy’n cael ei threfnu gan Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, yn dychwelyd ar ôl sawl blwyddyn o absenoldeb oherwydd y pandemig. Wedi’i dyfeisio’n wreiddiol gan Gymdeithas Rheilffordd Eryri a’i threfnu’n bennaf gan wirfoddolwyr, caiff yr ŵyl ei threfnu ar y cyd â’r cwmni rheilffordd. Mae’r ŵyl yn cynnig ystod eang o gwrw o’r gasgen, cwrw a seidr o bob cwr o Gymru, a nifer ohonyn nhw o’r meicro-fragdai, ac maen nhw ar gael o’r sied yng Ngorsaf Dinas, sydd wedi’i throi’n ystafell tap.
Pryd? Dydd Gwener (Mehefin 10) – dydd Sadwrn (Mehefin 11)
Ble? Gorsaf Dinas ger Caernarfon
Cwrw yn ôl ar y cledrau
Gŵyl Cefni, Llangefni
Mae Gŵyl Cefni yn ôl eleni ac yn dathlu 20 mlynedd o ddod â cherddoriaeth fyw Cymraeg i Ynys Môn.
Ymysg y perfformwyr eleni mae Gwilym, Fleur De Lys a Meinir Gwilym, sydd i gyd â’u gwreiddiau ym Môn.
Pryd? Dydd Sadwrn (Mehefin 11)
Ble? Llangefni
Am ragor o wybodaeth am rai o’r digwyddiadau, neu os hoffech chi hysbysebu’ch digwyddiad eich hun, ewch draw i Calendr360.