Mae BBC Cymru wedi ennill pedair gwobr ar draws teledu a radio yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022.
Roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Quimper, Llydaw.
Mae Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, wedi croesawu llwyddiant BBC Cymru ar ddiwedd y digwyddiad tri diwrnod.
Ymhlith yr enillwyr roedd Rhaglen Ifan Evans a’r comedi radio Dim Byd ar y Radio.
“Diwydiant cyfryngau Cymru yn iach”
Yn siarad o Quimper, dywedodd Rhuanedd Richards:
“Mae’n wych cael cyfle i ddathlu ein cynnwys ar y llwyfan rhyngwladol ac rydyn ni mor falch o’n staff a’n partneriaid yn y sector annibynnol am ansawdd a safonau ein henwebiadau eleni.
“Mae’r ffaith bod llawer o’r gwaith gwych hwn wedi cael ei wneud yn ystod y pandemig yn gwneud y llwyddiant hyd yn oed yn fwy arbennig ac yn brawf o’r ffaith bod diwydiant cyfryngau Cymru yn iach”.
Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd Rhuanedd Richards bod ffigurau gwrando Radio Cymru “ar eu huchaf” ers dros 12 mlynedd.
Mewn sgwrs gyda chylchgrawn golwg ar faes yr Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Rhuanedd Richards bod y ffaith honno yn “anhygoel”.
Ffigwr cyrhaeddiad wythnosol Radio Cymru yn rhan gyntaf 2022 oedd 155,000, “sy’n uwch nag maen nhw wedi bod am sbel” yn ôl llefarydd.
Ffigwr y chwarter diwethaf, yn niwedd 2021, oedd 164,000.
Dyma restr lawn o’r enillwyr yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022:
Comedi Radio: Dim Byd ar y Radio
Drama Radio: Perthyn – Huw
Rhaglen Gylchgrawn Radio: Rhaglen Ifan Evans
Cyfres Ffeithiol: A Killing In Tiger Bay
Roedd llwyddiant i S4C hefyd gyda’r rhaglen ddogfen Prif Weinidog Mewn Pandemig.