Fe fydd £4m yn cael ei roi i rai o’r cartrefi mwyaf agored i niwed yng Nghymru i helpu gyda biliau ynni cynyddol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (10 Mehefin).

Mae’r cynllun talebau gwerth £4m yn cael ei lansio gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Bydd y cymorth ychwanegol yn targedu pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw a chartrefi sydd ddim wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy. Yn ôl Jane Hutt dyma’r ddau grŵp a gafodd eu “hanwybyddu” gan y Canghellor yn ei becyn diweddaraf.

Mae ffigurau’n dangos mai pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yng ngogledd Cymru sydd wedi dioddef waethaf yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i ffioedd sefydlog cynyddol, gyda chostau’n cynyddu 102%.

I bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn ne Cymru, mae’r ffioedd sefydlog wedi codi 94% – dim ond tair ardal arall yng ngwledydd Prydain sydd wedi gweld cynnydd uwch.

Bydd y £4m o gyllid newydd yn galluogi’r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun talebau cenedlaethol, meddai Llywodraeth Cymru.

49,000 o dalebau

Bydd bron i 120,000 o bobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn gymwys i gael tua 49,000 o dalebau i’w cefnogi yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd talebau’n amrywio o £30 ym misoedd yr haf i £49 yn y gaeaf, a bydd aelwydydd yn derbyn hyd at dair taleb dros gyfnod o chwe mis.

Bydd y £4m hefyd yn darparu ar gyfer Cronfa Wres, sy’n rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys sydd ddim ar y grid nwy, sy’n dibynnu ar olew a nwy hylifedig. Bydd hyn yn helpu tua 2,000 o aelwydydd ar draws Cymru.

“Hynod frawychus”

Wrth ymweld â banc bwyd yn Wrecsam heddiw er mwyn gweld y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n ceisio cydbwyso costau ynni cynyddol â rhoi bwyd ar y bwrdd, dywedodd Jane Hutt:

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ysgubol ar bobl yng Nghymru.

“Heddiw, mae bron i hanner aelwydydd Cymru mewn perygl o’u cael eu hunain mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn hynod frawychus.

“Rydyn ni’n buddsoddi £4m ychwanegol yn y Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun cenedlaethol sy’n cwmpasu Cymru gyfan ac sy’n cefnogi’r bobl fwyaf anghenus.

“Mae’r cymorth ychwanegol hwn ar gyfer pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a’r rhai nad ydyn nhw ar y prif gyflenwad nwy neu drydan – dau grŵp a gafodd eu hanwybyddu gan y Canghellor yn ei becyn diweddaraf.”

Daw’r cyllid ychwanegol a’r gefnogaeth benodol hon wrth i aelwydydd ledled Cymru geisio ymdopi i dalu biliau ynni uwch, sefyllfa a oedd wedi gwaethygu gan y codiad yn lefel y cap ar ynni domestig ym mis Ebrill, meddai Jane Hutt. Pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y costau cynyddol a’r ffioedd sefydlog uwch.

Cynnydd o £708 y flwyddyn

Mae’r rhai sydd ar dariff amhenodol, sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, wedi gweld eu bil ynni cartref yn cynyddu £693 y flwyddyn ar gyfartaledd, ond pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sydd wedi cael eu taro galetaf, sydd wedi gweld cynnydd o £708 y flwyddyn.

Mae aelwydydd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif rwydwaith nwy hefyd yn dioddef yn sgil costau tanwydd cynyddol, ac yn eu cael eu hunain mewn tlodi tanwydd, gyda thua un o bob 10 aelwyd yng Nghymru yn dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi.

Mae llawer wedi nodi bod cost olew wedi mwy na dyblu dros y ddau fis diwethaf. Mewn rhai ardaloedd, gall cyflenwad o 500 litr, sydd fel arfer yn costio tua £340, gostio mwy na £750.

“Sicrhau nad ydy pobl yn mynd yn oer neu’n llwglyd”

Dywedodd Matthew Cole, pennaeth y Sefydliad Banc Tanwydd: “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ar adeg pan fo pobl wir yn stryffaglu i ymdopi’n ariannol â’r argyfwng costau byw a’r biliau ynni sy’n cynyddu’n ddiddiwedd.

“Bydd y cyllid yn galluogi’r Sefydliad Banc Tanwydd i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n mynd yn oer neu’n llwglyd y gaeaf hwn, pan na allan nhw fforddio rhoi mwy o gredyd yn eu mesurydd nwy a/neu drydan. Bydd y cymorth hwn hefyd yn ymestyn i aelwydydd nad ydyn nhw ar y grid nwy ac sy’n dibynnu ar danwydd solet fel olew, pren neu lo i wresogi a phweru eu cartrefi.

“A bydd yn ein galluogi i ehangu ein gweithgarwch a’r hyn y gallwn ni ei gyflawni ledled Cymru. Bydd canolfan Banc Tanwydd ym mhob awdurdod lleol, a fydd ar waith mewn pryd ar gyfer yr hydref, pan fydd y tywydd yn dechrau troi’n oerach.”

‘Croesawu’r cymorth’

Mae Luke Young, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Cyngor ar Bopeth Cymru wedi croesawu’r cymorth ychwanegol.

Dywedodd: “Mae hwn yn gymorth y mae mawr ei angen i ddelio a’r argyfwng costau byw. Dyma ddau grŵp yr oedden ni’n  poeni amdanyn nhw yn dilyn datganiad costau byw y Canghellor.

“Mae’r rhai sy’n byw oddi ar y grid nwy yn wynebu cynnydd uwch mewn costau tanwydd, tra bod pobl sy’n talu am ynni gan ddefnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw yn aml yn fwy tebygol o fynd heb fwyd neu ddim yn gwresogi eu cartrefi’n ddigonol. Mae aelwydydd yn y sefyllfa yma yn dechrau ar gostau sylfaenol uwch ac felly mae’r cymorth ychwanegol i gau’r bwlch hwnnw i’w groesawu.”