Mae Llywodraeth Cymru a bwrdd arholi CBAC wedi “gadael disgyblion Lefel A i lawr”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw hyn yn sgil honiadau gan ddisgyblion eu bod wedi sefyll arholiadau oedd yn cynnwys cwestiynau am bynciau nad oedden nhw wedi cael eu dysgu amdanyn nhw.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Laura Anne Jones, wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, i wneud datganiad brys i’r Senedd yn dweud sut y bydd yn mynd i’r afael â’r helynt.

Er hynny, mae CBAC yn mynnu fod ganddynt “hyder yn yr asesiadau sydd wedi’u darparu eleni”.

Ond maen nhw wedi “ymddiheuro am ddigwyddiad prin iawn yn ymwneud â gwall coladu yn ein papur Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Uned 3”.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi cyflwyno gwiriadau sicrhau ansawdd pellach ar gyfer yr arholiadau sy’n weddill.

“Cywilyddus”

“Dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr gael y cyfle i sefyll arholiadau arferol mewn 3 blynedd ac mae Gweinidogion Llafur, unwaith eto, wedi eu gadael nhw i lawr,” meddai Laura Anne Jones.

“Roedd y ffordd y mae’r Llywodraeth Lafur wedi ymdrin â’r system addysg yng Nghymru yn gywilyddus yn ystod y pandemig ac mae’n edrych fel nad oes fawr ddim wedi newid.

“Rwy’n galw ar Weinidog Addysg Llafur i gyhoeddi datganiad brys yn y Senedd i ateb sut y gallai hyn fod wedi digwydd.”

“Hyder yn yr asesiadau”

Yn y cyfamser, mae CBAC wedi dweud fod yr “holl gwestiynau yn ein harholiadau yn dod o’r cynnwys pwnc yn ein manylebau”.

“Mae gennym hyder yn yr asesiadau sydd wedi’u darparu eleni,” meddai llefarydd ar ran CBAC.

“Rydym wedi nodi ac wedi ymddiheuro am ddigwyddiad prin iawn yn ymwneud â gwall coladu yn ein papur Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Uned 3, ni nodwyd unrhyw wallau arwyddocaol eraill.

“Hoffem sicrhau myfyrwyr bod gennym weithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau nad ydynt o dan anfantais o gwbl a’u bod yn cael eu trin yn deg os bydd rhywbeth anffodus yn digwydd.

“Bydd pob un o’r atebion a gafwyd yn yr arholiadau’n cael ei ystyried yn ofalus wrth farcio a graddio i sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn gradd deg am eu cymhwyster.

“Yn ogystal, rydym wedi cyflwyno gwiriadau sicrhau ansawdd pellach ar gyfer yr arholiadau sy’n weddill.”

“Addasiadau”

Ychwanegodd CBAC: “Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, oherwydd bod amser addysgu wedi’i golli yn ystod y pandemig cyflwynwyd pecyn o fesurau gennym i gefnogi dysgwyr, ac roedd hyn yn cynnwys addasiadau i’n cymwysterau.

“Roedd yr addasiadau hyn yn amrywio o bwnc i bwnc, ond roedden nhw’n cynnwys llai o gynnwys i’w asesu, llai o ofynion yn yr Asesiad Di-arholiad, a chwestiynau opsiynau ar gyfer rhai cymwysterau.

“Ar gyfer pynciau eraill, lle nad oedd modd i ni wneud newidiadau sylweddol, rydym wedi rhannu Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel ffordd arall o helpu dysgwyr i ganolbwyntio eu hadolygu.

“Gallwn gadarnhau bod yr holl gwestiynau yn ein harholiadau yn dod o’r cynnwys pwnc yn ein manylebau.

“Nid oedden nhw’n dibynnu ar wybodaeth a dealltwriaeth o unrhyw destunau y nodwyd eu bod wedi’u tynnu o’r asesiad yn 2022.

“Mae amrediad o gwestiynau mewn arholiadau bob amser. Mae rhai o’r rhain yn mynd i fod yn fwy heriol nag eraill, fel y gallwn wahaniaethu’n effeithiol ar draws yr holl ystod graddau a dyfarnu gradd sy’n deg i bob myfyriwr.

“Hefyd rydym yn ystyried asesiadau’r gorffennol wrth ysgrifennu papurau er mwyn sicrhau bod modd cymharu arholiadau pob blwyddyn.

“Wrth farcio’r holl arholiadau, mae uwch arholwyr yn ystyried ymatebion myfyrwyr yn ofalus ac yn pennu ffiniau graddau yn unol â hynny.

“Os byddwn yn canfod, er enghraifft, bod papur un flwyddyn ychydig bach yn anoddach na phapur blwyddyn flaenorol, yna bydd y ffiniau graddau sy’n cael eu pennu yn cymryd hynny i ystyriaeth.

“Yn ogystal, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd dyfarniad y cymwysterau yn 2022 yn fwy hael nag ydoedd yn 2019 (y gyfres arholiadau lawn ddiwethaf).

“Bydd hyn yn lliniaru’r amhariad a brofwyd gan y myfyrwyr oherwydd y pandemig.”

Pawb yn cael eu trin yn deg”

Wrth ymateb i’r helynt, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae pobol ifanc sy’n sefyll eu harholiadau yr haf yma wedi gweithio’n eithriadol o galed.

“Mae mesurau wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.

“Bob blwyddyn, mae arholwyr yn gosod ffiniau graddau pan fydd yr arholiadau’n cael eu marcio, er mwyn ystyried os ydy arholiad yn fwy neu’n llai heriol nag mewn blwyddyn arall.

“Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd cymwysterau’n cael eu dyfarnu’n fwy hael yn 2022 nag yn 2019, er mwyn lliniaru’r aflonyddwch a brofir gan fyfyrwyr oherwydd y pandemig.”