Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion wedi cyhoeddi manylion eu gweithgareddau nos a’r amserlenni ar gyfer yr wythnos.

Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd nes bydd yr Eisteddfod yn agor ei giatiau ar gyrion Tregaron, gyda rhaglen o dros 1,000 o weithgareddau amrywiol.

Mae’r rhaglen nos yn “uchelgeisiol” yn ôl y trefnwyr, ac mae “stamp Ceredigion i’w weld yn glir” ar amryw o’r gweithgareddau.

Lloergan yw’r sioe agoriadol, nos Wener 29 Gorffennaf, gyda’r stori a’r sgript gan Fflur Dafydd a’r caneuon gan Griff Lynch (Yr Ods) a Lewys Wyn (Yr Eira). Y cast yw Lynwen Haf Roberts, Sam Ebenezer, Gruffydd Rhys Davies, Miri Llwyd a Chôr yr Eisteddfod.

Bydd cyfle i ddod ynghyd ar gyfer noson o ganu cynulleidfaol yn y Pafiliwn nos Sul 31 Gorffennaf, yn y Gymanfa Ganu, o dan arweiniad Delyth Hopkins Evans, gydag Iestyn Evans ar yr organ.

Ar y nos Lun bydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn cyflwyno sioe Maes G, sy’n wedd cwbl newydd ar yr hen chwedl leol am Faes Gwyddno, gyda bron i 20 o glybiau’r ardal yn cymryd rhan.

Prom cerddorol

Bydd dwy sioe wahanol iawn yn y Pafiliwn nos Fawrth, gan gychwyn gyda sioe i’r teulu cyfan ddiwedd y pnawn. Bydd Nel, seren y gyfres lyfrau poblogaidd, Na, Nel! gan Meleri Wyn James, yn mentro i’r llwyfan am y tro cyntaf mewn prom cerddorol sy’n llawn caneuon cyfoes ac yn gyfle i bawb ddod i adnabod Nel a’i ffrindiau. Bydd llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd gyda’r prom.

Yn nes ymlaen gyda’r nos, bydd criw Cabarela’n cyflwyno sioe newydd sbon ar lwyfan y Pafiliwn. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio yn y babell fawr, ond maen nhw wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn gwahanol lefydd ar y Maes ers rhai blynyddoedd. I gloi, mae Gig y Pafiliwn yn ôl, gyda’r DJ Huw Stephens wrth y llyw eto eleni, ac yn croesawu Gwilym, Adwaith, Mellt ac Alffa i’r llwyfan i berfformio trefniannau Owain Roberts o’u caneuon eu hunain, gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Mae’n ffordd i weld bandiau gorau Cymru mewn ffordd gwbl wahanol.

‘Deniadol ac apelgar’

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydyn ni’n hynod falch o gyhoeddi ein rhaglenni ar draws y Maes ar gyfer yr wythnos, gan gynnwys ein rhaglen nos yn y Pafiliwn. Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i greu rhaglen sy’n ddeniadol ac yn apelgar i Eisteddfodwyr rheolaidd a newydd.

“Wrth gyhoeddi manylion yr wythnos, rydyn ni’n diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr yn ardal Ceredigion sydd wedi bod yn gweithio gyda ni am gyfnod mor hir i dynnu popeth at ei gilydd. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac mae cefnogaeth a chyfeillgarwch ein pwyllgorau wedi bod yn gymaint o hwb a chymorth i ni wrth gynllunio a gwireddu ein rhaglenni ar gyfer eleni. Diolch yn fawr i bawb.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn cael blas ar yr arlwy wrth bori drwy’r amserlenni a’r wybodaeth am y cyngherddau ac y bydd pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn tyrru i Dregaron ymhen 50 diwrnod!

“Wrth gwrs, ’dyw’r gwaith ddim yn dod i ben wrth i ni gyhoeddi ein rhaglenni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu llawer iawn mwy o gynlluniau cyffrous gyda phawb dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys manylion prosiect unigryw ac uchelgeisiol, Dadeni, a fydd yn meddiannu pob rhan o’r Maes nos Sadwrn 30 Gorffennaf, a llawer mwy. Ac rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith adeiladu ar y Maes yn fuan – arwydd pendant fod yr Eisteddfod ar ei ffordd!”

Bydd tocynnau ar werth o 10:00yb ddydd Gwener 24 Mehefin ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.