Traffordd yr M4
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod bron i 3,000 o bobol wedi dod i weld arddangosfeydd cyhoeddus ar ei chynlluniau dadleuol i adeiladu rhan newydd o’r M4 ger Casnewydd.

Roedd y llywodraeth wedi cynnal pum arddangosfa dau ddiwrnod rhwng Magwyr a Chas-bach a phedair arddangosfa ‘symudol’ undydd mewn lleoliadau yn y de, gan gynnwys Caerfyrddin ac Abertawe.

Roedd 7,400 o ymweliadau wedi bod i wefan y prosiect hefyd yn ystod yr un cyfnod ym mis Medi 2015.

‘Costau’n cynyddu’

Amcangyfrifir y gallai’r prosiect gostio hyd at £54 miliwn.

Ond dywedodd Elin Jones AC, dirprwy arweinydd Plaid Cymru, ei bod yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn “gwrando ar bobol sy’n rhybuddio ynglŷn â chost y cynllun a’r goblygiadau amgylcheddol”.

“Mae’r costau’n parhau i gynyddu, ac mae’r gost o adeiladu traffordd newydd ar draws wastadeddau Gwent ac aber yr Afon Wysg o bryder mawr,” meddai.

“Mae cynlluniau amgen i gael i wella’r sefyllfa o ran traffig ar yr M4, fyddai’n niweidio llai ar yr amgylchedd ac yn medru cael eu cwblhau ynghynt.

“Byddan nhw hefyd yn costio llawer llai, gan olygu y gallwn greu polisi o fuddsoddiad trafnidiaeth fyddai o fudd i bob rhan o Gymru – nid dim ond un gornel.”

Y prosiect yn mynd yn ei flaen

Bydd y wybodaeth o’r arddangosfeydd bellach yn cael ei defnyddio i yrru’r prosiect ymlaen, gyda Gorchmynion Statudol a Datganiad Amgylcheddol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2016.

Bydd y rhain yn nodi’r tir bydd ei angen er mwyn adeiladu’r cynllun a’r gwaith lliniaru amgylcheddol a fydd yn gysylltiedig â hynny.

Yn dilyn hyn, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol, cefnogi, gwneud sylwadau neu awgrymu atebion eraill.

“Dw i’n falch o weld bod cynifer o bobl wedi achub ar y cyfle i gael cip ar y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu’r prosiect hynod bwysig hwn,” meddai Edwina Hart, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru.

“Bydd yr adborth a gafwyd yn ystod yr arddangosfeydd yn cael ei ddefnyddio bellach yn ystod y camau dylunio nesaf.”

Mae disgwyl y bydd rhan newydd o’r draffordd yn barod erbyn mis Hydref 2021.