Fe allai ffermio mynydd fod yn waeth i’r amgylchedd na hedfan mewn awyrennau ar draws y byd, yn ôl un colofnydd amgylcheddol.

Mewn colofn yn y Guardian fe gyfeiriodd George Monbiot at ymchwil oedd yn awgrymu ei bod hi’n cymryd mwy o garbon i gynhyrchu cilogram o gig oen neu gig eidion ag oedd hi i hedfan o Lundain i Efrog Newydd.

Fe awgrymodd y colofnydd y dylai pobl geisio bwyta llai o gig y Nadolig hwn er mwyn helpu’r amgylchedd.

Ond mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb chwyrn, gyda’r ffermwr mynydd adnabyddus Gareth Wyn Jones yn ei gyhuddo o geisio “croeshoelio amaeth yn yr ucheldir”.

‘Goroesi ar gymorthdaliadau’

Yn ei golofn roedd George Monbiot yn benodol yn feirniadol o ffermio mynydd gwartheg a defaid, sydd yn gyffredin yng Nghymru.

Mynnodd nad oedd yn effeithlon a’i fod yn cynhyrchu llawer mwy o nwyon carbon nag oedd ei angen, gan ddweud bod y “gweithgarwch economaidd yn yr ucheldiroedd gwag eang ddim ond yn cael eu cynnal gan gymorthdaliadau hael”.

“Er mwyn cadw un oen mae’n rhaid i chi gadw darn helaeth o dir yn wag ac wedi’i wrteithio,” meddai.

“Mae’n rhaid i’r anifail grwydro’r bryniau i ganfod bwyd, gan losgi mwy o fraster a chreu mwy o fethan nag y byddai anifail llonydd yn ei wneud.”

‘Croeshoelio amaeth’

Fe gyfaddefodd Gareth Wyn Jones bod gan y colofnydd rai pwyntiau teilwng yn ei erthygl, ond roedd yn feirniadol tu hwnt o agwedd gyffredinol yr amgylcheddwr.

“Dw i’n cytuno efo’r pwyntiau mae o’n ei wneud am orfwyta a gor-brynu,” meddai Gareth Wyn Jones wrth Golwg360.

“Ond beth dw i ddim yn cytuno efo ydi’r ffordd mae o yn croeshoelio amaeth yn yr ucheldir.

“Mae’n drist i fod yn onest. Rhydd i bawb ei farn, ond dw i’n meddwl bod ganddo fo bach o agenda yn erbyn ffermwyr mynydd.

“Mae gan ein teulu ni hanes o 300 o flynyddoedd ar y Carneddau, ac mae hwn yn dod i mewn a chreu stŵr. I fynd ar ôl cynhyrchwyr anifeiliaid ar yr adeg yma – dydi o ddim yn Nadoligaidd iawn nacdi!”

Newid hinsawdd

Heddiw fe rybuddiodd academydd o Brifysgol Aberystwyth y bydd disgwyl i’r diwydiant amaeth chwarae ei rhan wrth leihau cynhesu byd eang yn sgil y cytundeb newid hinsawdd ym Mharis.

Mynnodd Gareth Wyn Jones bod ffermwyr eisoes wedi gorfod addasu eu dulliau, fodd bynnag, ac y byddai troi’r sylw’n benodol at y diwydiant amaeth yn annheg.

“Mae angen edrych mwy ar garbon wrth gludo pethau o un lle o’r byd i’r llall, a sbïo mwy ar beth fedrwn ni wneud i allu prynu yn fwy lleol a chynaliadwy,” mynnodd y ffermwr o Lanfairfechan.

“Dropyn yn y môr o’i gymharu â beth mae gwledydd fel China ac India yn neud … ydi amaeth yn yr ucheldir, ac mae’n rhywbeth sy’n cadw natur a chydbwysedd mewn cefn gwlad.

“Mae angen atgoffa pobl mai cynhyrchu bwyd ydi pwrpas ffermio, ac ailddysgu pobl o ble mae eu bwyd nhw’n dod.”