Mae gêm dyngedfennol Cymru yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5) yn “gyfle gwych i ddangos undod” gyda phobol Wcráin, yn ôl Mick Antoniw.

Mae gan Gwnsler Cyffredinol Cymru gysylltiadau teuluol cryf ag Wcráin, ac mae’n rhagweld y bydd yna “berthynas agos iawn yn datblygu rhwng cefnogwyr Cymru ac Wcráin” yn sgil y gêm fawr.

Daw hyn wrth i Gymdeithas Pêl-droed Cymru gyhoeddi bod 100 o docynnau ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd ar gael am ddim i ffoaduriaid o Wcráin.

Mae’r holl docynnau ar gyfer cefnogwyr cartref i’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd – sy’n dal 33,000 o bobol – wedi eu gwerthu.

Mae 5% o’r tocynnau wedi eu neilltuo ar gyfer Gymdeithas Bêl-droed Wcráin, ac mae’n debyg y bydd y tocynnau i ffoaduriaid yn dod ar ben y nifer sydd eisoes wedi eu neilltuo ar gyfer yr ymwelwyr.

Mae Cymru’n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, tra bod Wcráin wedi cyrraedd Cwpan y Byd unwaith yn unig yn eu hanes, yn 2006.

“Hoffwn i roi croeso cynnes Cymreig i dîm pêl-droed Wcráin a’u cefnogwyr i Gaerdydd,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.

“Bydd hwn yn gyfle i ni ailddatgan ein cefnogaeth i Wcráin wrth iddi frwydro rhyfel ciaidd a direswm Rwsia.”

‘Os yw Rwsia’n ennill y rhyfel, fydd gan Wcráin ddim tîm’

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod tîm Wcráin gael ei weld yn y cylchoedd rhyngwladol yna,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.

“Wrth gwrs mae’r gemau hyn yn bwysig i unrhyw dim sy’n cystadlu, ond mae yna rywbeth arbennig am y ffaith fod Wcráin yn cystadlu oherwydd os yw Rwsia’n ennill y rhyfel fydd gan Wcráin ddim tîm.

“Fe allai hynny fod yn un o ganlyniadau’r rhyfel.

“Roedd hi’n braf gweld cefnogwyr Wcráin yn Hampden Park, wnes i adnabod ambell berson sy’n Wcreiniaid ail genhedlaeth fel fi oedd yn gwisgo ciltiau yn ogystal â chrys Wcráin.

“Roedd yna gydnabyddiaeth rhwng y ddwy wlad, a dw i’n credu y bydd yr un math o awyrgylch yng Nghymru.

“Dw i’n meddwl y bydd yna berthynas agos iawn yn datblygu rhwng cefnogwyr Cymru a Wcráin.

“Mae’n gyfle gwych i ddangos undod gyda phobol Wcráin.

“Pan wyt ti’n meddwl am y peth, mae’r rhain yn ddwy genedl sydd wedi dyfod o ran cael Senedd eu hunain ac ati yn y 30 mlynedd diwethaf.

“Roedd Wcráin yn dathlu 30 mlynedd annibyniaeth y llynedd, ac wrth gwrs mae hi’n tua 20 mlynedd ers datganoli yma yng Nghymru.

“Felly mae gennym ni lot yn gyffredin fel cenhedloedd.

“Mae hyd yn oed yr ‘anthemau’ yn debyg, llinell gyntaf anthem Wcráin ydi ‘Dyw Wcráin heb farw’.

“Dyw hynny ddim yn annhebyg i’r Cymry sy’n canu ‘Yma o Hyd’.”