Mae tîm criced Morgannwg wedi colli o naw wiced mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.
Ar ôl perfformiad cyflawn yng Nghaerdydd wrth guro Essex neithiwr (nos Iau, Mehefin 2), canlyniad a pherfformiad tra gwahanol gafwyd heno (nos Wener, Mehefin 3), wrth i Will Smeed gosbi’r bowlwyr gyda 94 heb fod allan oddi ar 41 o belenni.
Sgoriodd Morgannwg 173 am saith ar ôl cael eu gwahodd i fatio, gydag Eddie Byrom yn taro 37 oddi ar 26 o belenni, ond cipiodd Ben Green bum wiced am 29 i gyfyngu Morgannwg i sgôr is na’r disgwyl.
Ond adeiladodd Will Smeed a Tom Banton (45) bartneriaeth o 100 oddi ar 9.2 pelawd, ac fe gyrhaeddodd Gwlad yr Haf y nod o 174 gyda 5.5 pelawd yn weddill.
Tarodd Smeed wyth chwech a chwe phedwar i arwain ei dîm i’w pedwaredd buddugoliaeth mewn pum gêm, ond mae Morgannwg bellach wedi colli tair gêm allan o bump.
Daeth hanner canred Smeed oddi ar 27 o belenni, gyda Banton hefyd yn taro tri chwech a thri pedwar.
Ymateb
“Fe welson ni fatiad arbennig iawn gan Will Smeed,” meddai Eddie Byrom, batiwr Morgannwg oedd yn arfer chwarae i Wlad yr Haf.
“Rydyn ni bob amser yn gwybod fod batio cyntaf yma a cheisio amddiffyn yn anodd iawn, a doedd dim stop arno fe heno.
“Hanner ffordd, ro’n i’n meddwl ein bod ni wir yn y gêm.
“Doedd hi ddim yn llain 200 a mwy fel wnaethon nhw wneud iddi edrych.
“Dw i’n credu bod ychydig bach ynddi i’r bowlwyr, ac roedd ychydig o’r pelenni araf yn sticio fymryn, sy’n dangos pa mor dda chwaraeodd Smeed.
“Roedd hi’n braf cyfrannu gyda rhediadau, ond doedd e ddim yn ddigon da ar y noson.
“Bydden ni wedi hoffi bwrw iddi, ond roedden nhw’n eithaf clinigol yn y diwedd, a bowliodd Green yn dda, felly pob clod i Wlad yr Haf.”