Mae’n rhaid i Gymru ganolbwyntio ar 90 munud o bêl-droed wrth iddyn nhw baratoi i herio Wcráin yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd, meddai Ben Davies.

Bydd y gêm dyngedfennol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 5 o’r gloch ddydd Sul (Mehefin 5).

Mae’r amddiffynnwr yn cyfaddef y bydd yn achlysur emosiynol oherwydd y rhyfel yn Wcráin, ond fod yn rhaid i chwaraewyr Cymru roi hynny o’r neilltu.

“Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa mae Wcráin ynddi ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae’n rhaid ei fod yn anhygoel o anodd bod yn eu hesgidiau nhw gyda phopeth sy’n digwydd.”

‘Breuddwyd’

Byddai buddugoliaeth i Gymru yn sicrhau eu hail ymddangosiad yn unig yng Nghwpan y Byd, gyda’r cyntaf yn 1958.

Mae Ben Davies yn disgrifio’r posibilrwydd o gyrraedd y rowndiau terfynol fel “breuddwyd”.

“Mae’n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn awyddus iawn i’w wneud ers 50 i 60 mlynedd,” meddai.

“Mae’n freuddwyd i’n tîm ac rydym wedi rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle rydym un gêm i ffwrdd, a bydd y ffocws i ni ar hynny yn unig.”

‘Di-ofn’

Mae Cymru wedi dod yn agos at gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn ystod y 64 mlynedd diwethaf, ond dydy poen y gorffennol ddim yn chwarae ar feddyliau’r chwaraewyr, medd Ben Davies.

“Rydyn ni ond yn canolbwyntio ar yr hyn sydd o dan ein rheolaeth gyda’r garfan sydd gennym nawr,” meddai.

“Mae’r bechgyn yma’n ddi-ofn. Efallai mai dyma eu profiad cyntaf o gêm enfawr ers yr Ewros y llynedd.

“Rwy’n credu y gorau rydyn ni’n ei wneud, mae pobol bob amser yn disgwyl i ni gynnal y lefel honno, ond y realiti yw bod gennym grŵp bach o chwaraewyr i ddewis ohonyn nhw o’i gymharu â thimau rydyn ni’n chwarae yn eu herbyn.

“Rwy’n credu ein bod ni’n gwneud yn well nag y mae gennym ni unrhyw hawl i’w wneud.”