Mae nifer o deithwyr yn wynebu trafferthion yng Nghymru heddiw oherwydd llifogydd.

Mae gwasanaeth Trenau Arriva Cymru rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi dod i stop i’r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd.

Fe fydd gwasanaethau bws yn cael eu darparu yn lle ac mae disgwyl i’r trafferthion barhau tan hanner dydd heddiw.

Mae gwasanaeth bws yn lle trenau hefyd rhwng gorsafoedd y Drenewydd a Machynlleth bore ma oherwydd lefelau dwr uchel.

Fe fu oedi ar wasanaethau eraill yng Nghymru gan gynnwys y gwasanaeth o Gaerdydd Canolog i Fanceinion, ac nid oedd gwasanaeth 5.30yb rhwng Aberystwyth a Birmingham International yn gallu stopio mewn nifer o orsafoedd am fod dŵr ar y rheilffordd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod disgwyl i Storm Eva daro rhannau o’r DU yn y cyfnod hyd at ddydd Nadolig gyda gwyntoedd o 70mya.

Yng Nghymru mae pedwar rhybudd am lifogydd mewn grym yn Nyffryn Conwy, Dinbych y Pysgod, Dyffryn Dyfi a Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i Ddolydd Trefalun. Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hyd at 60mya yng Nghymru dros nos hyd at Noswyl Nadolig.