Mae Yes Cymru, y mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth, yn bwriadu cynnal cyfres o ralïau ar draethau i dynnu sylw at yr ymgyrch i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru.

Ar hyn o bryd, Brenhines Lloegr sy’n berchen ar Ystâd y Goron, sy’n rhan fawr o ddyfroedd arfordirol Cymru sydd ond yn cael 25% o’r elw, gyda’r gweddill yn mynd i Drysorlys y Deyrnas Unedig.

Mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn cefnogi datganoli’r gwaith o reoli Ystâd y Goron a’i hasedau yng Nghymru, fel sy’n digwydd eisoes yn yr Alban.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthwynebu unrhyw gamau i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru.

‘Mater pwysig iawn na ellir ei anwybyddu’

Dywed Vaughan Williams, sy’n aelod o Gorff Llywodraethu YesCymru, y bydd y ralïau yn cael eu cynnal ar Fehefin 11 a 12.

“Mae hwn yn syniad gwych sy’n adeiladu ar ymgyrch lwyddiannus baneri ar bontydd,” meddai.

“Mae’n tynnu sylw at fater pwysig iawn na ellir ei anwybyddu na chael ei frwsio o dan y carped mwyach.

“Rwy’n annog aelodau i wneud popeth o fewn eu gallu i gymryd rhan ac i anfon neges glir.”